Skip to main content

Rhondda Cynon Taf O Blaid Pobl Hŷn

Ein gweledigaeth yw Cymru sydd o blaid pobl hŷn, sydd yn gefn i bobl o bob oed wrth iddyn nhw fyw a heneiddio'n dda. Rydyn ni am greu Cymru sy'n edrych ymlaen at fynd yn hŷn. (Llywodraeth Cymru)

Beth yw cymunedau sydd o blaid pobl hŷn?

AF Wales logo

Dylai pawb yng Nghymru fedru heneiddio'n dda. Mewn cymunedau sydd o blaid pobl hŷn, mae pobl hŷn yn teimlo'u bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a'u parchu ac maen nhw'n gallu:

  • gadael y tŷ a chrwydro
  • gwneud y mwyafrif o'r pethau maen nhw'n dymuno eu gwneud
  • byw bywydau iach a sionc
  • bod yn effro i wybodaeth newydd
  • lleisio eu barn

Rhondda Cynon Taf O Blaid Pobl Hŷn

Age Friendly RCT Logo

Yn Rhondda Cynon Taf, trwy weithio â'n pobl hŷn yn ein cymunedau ledled y fwrdeistref sirol, mae trigolion hŷn yn cael eu cefnogi i ddechrau ymgymryd â gweithgareddau sy'n seiliedig ar y syniad o fod o blaid pobl hŷn, sy'n cynyddu lles ac sy'n golygu bod trigolion yn heneiddio'n dda. Mae'n eu cefnogi hefyd i barhau â'r gweithgareddau yma.

Mae cael poblogaeth sy'n mynd yn hŷn, sy'n iach, sy'n teimlo'i bod yn perthyn a bod ei chymuned yn gefn iddi yn beth i'w ddathlu. Rydyn ni'n falch o'r gwaith aruthrol sydd wedi digwydd eisoes ac a fydd yn parhau yn ein cymunedau; mae hyn yn cadarnhau'n hymrwymiad i weithio gyda'n partneriaid er mwyn gwneud Rhondda Cynon Taf yn lle gwell i ni gyd wrth i ni fynd yn hŷn

Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd

Cafodd Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sydd o Blaid Pobl Hŷn ei sefydlu yn 2010. Ei nod yw cysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd sy'n awyddus i fod yn lleoedd gwych i bobl heneiddio ynddyn nhw.

Yng Nghymru, mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn cefnogi'r gwaith yma ar sail addewid i wneud Cymru y lle gorau yn y byd i fynd yn hŷn ynddo ac mae'n gweithio ledled Cymru i annog a datblygu cymunedau sydd o blaid pobl hŷn.

Gan weithio gyda'n partneriaid ledled Rhondda Cynon TAF a chan ddefnyddio rhwydweithiau sefydledig, yn eu plith Grŵp Llywio Cymorth Cymunedol RhCT, Rhwydweithiau CymdogaethFforymau 50+ a Grŵp Ymgynghori'r Bobl Hŷn (OPAG), a chyda chefnogaeth lawn ac arweiniad Ein Hyrwyddwr O Blaid Pobl Hŷn, y Cynghorydd Gareth Caple, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi llwyddo i ymaelodi â’r Rhwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd a Chymunedau sydd O Blaid Pobl Hŷn. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i:

  • Rannu arfer da ac ysbrydoli cymunedau eraill
  • Creu cysylltiadau â Dinasoedd a Chymunedau eraill sydd O Blaid Pobl Hŷn ledled y byd er mwyn rhannu gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad
  • Dysgu gan eraill a chanfod atebion newydd ar sail tystiolaeth i'r heriau mae pobl hŷn yn eu hwynebu

Hyn oll â'r nod o wella bywydau pobl hŷn ledled Rhondda Cynon Taf. 

Darllen yn Well ar gyfer Dementia

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun yn ogystal â rhagor o fanylion am yr adnoddau sydd ar gael yn eich llyfrgell leol a’r  holl deitlau sydd ar y rhestr Darllen yn well ar gyfer Dementia ar gael ar wefan The Reading Agency. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau cymorth eraill sydd ar gael.

Sut galla i gymryd rhan?

Os hoffech chi gael gwybod rhagor, mynnwch air ag aelod o Garfan RhCT Gyda'n Gilydd: rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk / 01443 425368