Skip to main content

Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen

 
Mae'r ysgol wedi'i hadeiladu ar safle Ysgol Gynradd Heol y Celyn gan fod cam 1 y buddsoddiad yma wedi'i gwblhau, yn ôl yr amserlen, ym mis Medi 2023. Mae staff a disgyblion yn mwynhau defnyddio'r cyfleusterau newydd yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24
New-Rhydyfelin-school-3
Cafodd adeilad newydd yr ysgol ei gwblhau erbyn mis Medi 2023 yn rhan o gam 1

 

Mae'r prosiect wedi'i ariannu yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £75.6 miliwn ledled ardal ehangach Pontypridd drwyRaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. ISG yw'r contractwr penodedig ar gyfer cyflawni'r gwaith yma.

Disgyblion a staff yn Rhydyfelen yn mwynhau eu hadeilad ysgol newydd (Hydref 2023)

Mae'r ysgol newydd yn cynnwys cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf mewn adeilad sy'n perthyn i'r unfed ganrif ar hugain sydd wedi'i darparu yn rhan o gam 1 yn ogystal ag Ardal Gemau Aml-ddefnydd a man awyr agored gwell.

Bydd y cynllun ehangach yn cael ei ddarparu yn rhan o gam 2 yn ystod 2024 ac mae'n cynnwys cae chwarae, maes parcio i staff a safle bysiau newydd. Y bwriad yw i'r ysgol fod yn Garbon Sero-Net, tra bydd yr adeiladau presennol yn cael eu dymchwel. 

Bydd pob elfen o'r prosiect yn cael ei chwblhau erbyn mis Medi 2024 er mwyn sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd, Ysgol Awel Taf ar gyfer disgyblion ffrwd Gymraeg Ysgol Heol y Celyn ac Ysgol Pont Siôn Norton.

Yn ystod Medi a Hydref 2021, bu'r Cyngor wrthi'n ymgynghori ar y cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd gan ganiatáu i'r cyhoedd leisio eu barn a rhoi sylwadau ar y cynigion. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys achlysur cyhoeddus yn Rhydfelen er mwyn i drigolion siarad â swyddogion a'r contractwr penodedig mewn perthynas â'r cynlluniau.

School generic 2023 - rhydyfelin

School generic 2023 - rhydyfelin 2

Cafodd y cyfleusterau yn yr ysgol newydd eu darparu mewn pryd ar gyfer blwyddyn academaidd.