Skip to main content

Treftadaeth, Diwylliant a Llyfrgelloedd

 
Mae'r rhaglen 'buddsoddiadRhCT' yn cefnogi nifer o brosiectau gwella ledled y fwrdeistref, gan gynnwys mynediad wifi am ddim i'r cyhoedd mewn llyfrgelloedd, gwaith gwella i theatrau a buddsoddiad £0.5m i wella cyfleusterau twristiaid ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda.

Mae gan bob llyfrgell y cyngor fynediad wi-fi am ddim i'r cyhoedd. Mae hyn yn ei wneud yn haws i bobl fynd ar-lein a dod yn weithredol ddigidol. Mae 'buddsoddiadRhCT' hefyd yn ariannu gwelliannau eraill mewn rhai o lyfrgelloedd y Cyngor.

Mae £0.5m yn cael ei fuddsoddi i wella cyfleusterau ymwelwyr ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Mae hyn yn dilyn llwyddiant Lido Ponty a Chanolfan Ymwelwyr y Bathdy Brenhinol ac yn helpu i hyrwyddo Rhondda Cynon Taf fel lleoliad gwych i dwristiaid.

Bydd buddsoddiad i Theatr y Parc a'r Dâr a Theatr y Colisëwm yn gweld nifer o fuddion i selogion y theatr, drwy wella'r profiad o fynd i weld sioe neu berfformiad.

Eich milltir sgwâr
Rhowch eich cod post i weld sut mae eich ardal leol yn elwa o'r buddsoddiad gwerth £200 miliwn.

Nodwch eich cyfeiriad i weld y canlyniadau