Skip to main content

Rhaglen Buddsoddiad RhCT

 TMae rhaglen BuddsoddiadRhCT tair blynedd, gwerth 200 miliwn y Cyngor bellach ar waith mewn stryd, ardal chwarae, cyfleuster hamdden neu ganol tref ar eich pwys chi. 

Yn rhan o'r rhaglen BuddsoddiadRhCT, mae'r Cyngor yn buddsoddi £200m rhwng 2016/17 a 2018/19. Bydd y buddsoddiad sylweddol yma yn fuddiol i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn y fwrdeistref sirol a bydd y cynnwys buddsoddiadau mewn meysydd blaenoriaeth fel Hamdden, Ysgolion, Ardaloedd Chwarae, Seilwaith Priffyrdd a Thrafnidiaeth, Tai, Canol y Trefi a'r Pentrefi ac Ailgylchu.

Bydd modd gweld y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen BuddsoddiadRhCT ar y tudalennau gwe hyn. Gallwch hefyd chwilio am #buddsoddiadRhCT ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf yn rheolaidd.

Buddsoddiad yn Rhondda
Buddsoddiad yn Taff Ely
Buddsoddiad yn Cynon
Eich milltir sgwâr
Rhowch eich cod post i weld sut mae eich ardal leol yn elwa o'r buddsoddiad gwerth £200 miliwn. 

Nodwch eich cyfeiriad i weld y canlyniadau

Highways
Y Priffyrdd a Phrosiectau Strategol

Gwelliannau i'r Priffyrdd ledled RhCT, cynlluniau i liniaru llifogydd a phrosiectau strategol newydd fel y Ffordd Gyswllt Traws Cwm.

Schools

Gwelliannau i nifer o ysgolion a chymorth i greu cyfleusterau Ysgol 21ain Ganrif.

Parks

Parciau Chwarae

50 o barciau chwarae ledled RhCT yn elwa o'r buddsoddiad.

Town-Centres

Cymorth i ddatblygu Canolfan Siopa Taff Vale a chanol nifer o drefi a phentrefi.

Leisure-Centres

Canolfannau Hamdden a Chyfleusterau Hamdden Awyr Agored

Gwella canolfannau hamdden ac uwchraddio caeau pob tywydd yn gaeau 3G.

Rhondda Heritage Park-122
Treftadaeth, Diwylliant a Llyfrgelloedd
Mae'r rhaglen 'buddsoddiadRhCT' yn cefnogi nifer o brosiectau gwella ledled y fwrdeistref, gan gynnwys mynediad wifi am ddim i'r cyhoedd mewn llyfrgelloedd, gwaith gwella i theatrau a buddsoddiad £0.5m i wella cyfleusterau twristiaid ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda.