Skip to main content

Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref

 

Yn rhan o'r prosiect mae adeilad ysgol newydd wedi cael ei ddarparu, gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf, sy'n cymryd lle'r adeiladau hŷn oedd yno o’r blaen. Mae ardaloedd allanol y safle ehangach yn cael eu datblygu yn rhan o gam dau'r prosiect.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu trwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef ffrwd arian refeniw Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref oedd yr ysgol gyntaf i gael ei darparu yn rhan o'r rhaglen yma, a hynny pan agorwyd yr ysgol newydd sbon ar 24 Ebrill, 2024.

Llanilltud-Faerdref-Primary-School

Mae'r buddsoddiad wedi darparu adeilad unllawr newydd, sy'n gweithredu ar sail Carbon Sero Net ac sydd â lle i 240 o ddisgyblion a 30 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin. Mae'n darparu amgylchedd dysgu bywiog yr 21ain Ganrif ar gyfer staff a disgyblion, a bydd rhai cyfleusterau hefyd ar gael i'r gymuned ehangach eu defnyddio.

Adeilad o'r radd flaenaf ar gyfer Ysgol Gynradd Pentre'r Eglwys (Ebrill 2024)

Yn allanol, bydd y datblygiad yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt, cae chwarae newydd a maes parcio. Dechreuwyd ar y gwaith i gynnig y cyfleusterau yma o fis Ebrill 2024 yn rhan o gam dau'r datblygiad. Mae disgwyl i'r cam yma gael ei gwblhau yn yr hydref, 2024.