Skip to main content

Ysgol Gyfun Bryn Celynnog

 

Mae'r buddsoddiad arfaethedig ar gyfer Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn ardal Beddau wedi darparu cyfleusterau gwell i'r chweched dosbarth a chyfleusterau chwaraeon gwell, yn ogystal â chyfleusterau celf, mathemateg a ThGCh ehangach sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Mae'r ysgol hefyd yn elwa ar gampfa, ystafell ffitrwydd a stiwdio ddawns newydd, gyda man casglu a maes rygbi gwair newydd y tu allan.

Cafodd y cyfleusterau yma eu trosglwyddo gan y contractwr datblygu ym mis Tachwedd 2023 er mwyn i staff a disgyblion eu defnyddio. Mae'r garreg filltir yma'n nodi diwedd Cam Cyntaf y buddsoddiad yn yr ysgol. Bydd cyfleoedd hefyd i’r gymuned ehangach ddefnyddio’r cyfleusterau newydd.

Bydd yr Ail Gam sydd i ddilyn yn cynnwys dymchwel hen adeilad i greu maes parcio ychwanegol i staff ar y safle.

Cyfleusterau newydd yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Gyfun Bryn Celynnog (Tachwedd 2023)

Mae ymgynghoriad a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2021 wedi rhoi cyfle i drigolion ddod i wybod mwy am y cynllun ac i fynegi eu barn.  

Derbyniodd y cynllun ganiatâd cynllunio llawn oddi wrth Bwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor ym mis Mawrth 2022.

Mae'r buddsoddiad ar gyfer Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £75.6 miliwn mewn cyfleusterau addysg ledled ardal ehangach Pontypridd.

Mae'r lluniau yma'n dangos rhai o'r cyfleusterau newydd sydd wedi'u creu yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog.

Bryn-Celynnog-school-
Art-room
IT-Suite
Changing-Room
External-Gym
Dance-Studio