Skip to main content

Aberdare Festival

Gŵyl Aberdâr

Mae Gŵyl Aberdâr 2024 wedi dod i ben! Dilynwch @whatsonrct i gael manylion am achlysur 2025!

Roedd Gŵyl Aberdâr 2024 yn llwyddiant ysgubol!

Ymunodd dros 10,000 o ymwelwyr â ni ar ddiwrnod heulog ym Mharc Aberdâr i fwynhau'r holl atyniadau oedd ar gael, gan gynnwys:

Sinema awyr agored – daeth llawer o bobl â blanced i'w rhoi ar y gwair ger Cylch yr Orsedd i fwynhau ffilm Wonka!
Llwyfan Cerddoriaeth Fyw – gyda pherfformiadau gan lawer o bobl dalentog leol, gan gynnwys perfformwyr teyrnged, ysgolion dawns a chaneuon gwreiddiol, roedd y llwyfan yn llwyddiannus dros ben.
Fferm anwesu anifeiliaid a theithiau ar gefn asyn – roedd ein hymwelwyr iau wrth eu boddau yng nghwmni'r anifeiliaid.
Trên bach – roedd y trên bach yn brysur wrth i ymwelwyr deithio o gwmpas y parc mewn steil.
Arddangoswyr – roedd ystod wych o fwyd, crefftau a gwybodaeth ar gael yn achlysur 2024.
Bar a Gardd Gwrw – roedd Grey Trees Brewery yn brysur iawn yn gweini cwrwau lleol a llawer yn rhagor.

Roedd cymaint ar gael, gan gynnwys sgiliau syrcas, ffair a Phicnic y Tedis! Rydyn ni'n gobeithio eich gweld chi eto yn 2025

Aberdare Crowd

Visit-RCT-Lido-Banner-Welsh

Noddwyr digwyddiadau

RCT-Footer-Logo

NATHANIEL MG LOGO 2019