Gweithio gydag eraill

Rydyn ni'n gweithio gyda llawer o sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol, yn ogystal â'n trigolion a'n cymunedau, er mwyn gwella bywydau'r rheiny sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, yn gweithio yma neu'n ymweld â'r sir. Mae rhai enghreifftiau isod.
Cardiff Capital Region City Deal
Cafodd Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd werth £1.2 biliwn ac sydd â'r potensial i weddnewid economi de-ddwyrain Cymru.
PSB
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn gasgliad o gyrff cyhoeddus sy'n cydweithio er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn ardal Cwm Taf, ac sy'n ymweld â nhw.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn dod â phartneriaid Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Trydydd Sector a phartneriaid eraill ledled Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr ynghyd.
RCT Community Safety Partnership
Cafodd Partneriaeth Cymunedau Diogel eu sefydlu yn sgil Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a roddodd ddyletswydd statudol ar bob ardal Awdurdod Lleol gael Partneriaeth Cymunedau Diogel.
Centrat South Consortium
Consortiwm Canolbarth y De yw'r gwasanaeth gwella ysgolion sy'n gweithredu ar ran pum awdurdod lleol, sef Bro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.
Picture1

Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf (BDCT) yn bartneriaeth amlasiantaeth sy'n gyfrifol am ddiogelu plant, pobl ifainc ac oedolion sydd mewn perygl yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Resilience Fam
Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn cynnig cymorth i deuluoedd ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf.  Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn rhoi'r cymorth cywir i deuluoedd ar yr adeg gywir. Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar gynyddu
MASH
Hwb Diogelu Amlasiantaeth Cwm Taf yw'r un man cyswllt ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sydd am adrodd pryderon diogelu, ar draws Cwm Taf.
Vale, Valleys & Cardiff Adoption Collaborative (VVC)
Mae Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd yn gydweithrediad rhanbarthol sy'n dod â gwasanaethau mabwysiadu Bro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf at ei gilydd.
RCT Together
RhCT Gyda'n Gilydd yw dull blaengar y Cyngor ar gyfer ymgysylltu â'i drigolion a'i gymunedau, a gweithio gyda nhw, i ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau cynaliadwy yn y dyfodol.
SWPGLogo
Mae Grŵp Parcio De Cymru'n prosesu Hysbysiadau Tâl Cosb ar gyfer CBS Rhondda Cynon Taf, CBS Merthyr Tudful, CBS Blaenau Gwent, CBS Caerffili, CS Trefynwy, CS Casnewydd, a ChBS Torfaen. Mae Swyddogion Gorfodi Sifil yn patrolio ac yn gorfodi cyfyngiadau traffig sydd wedi’u marcio a/neu eu harwyddo, e.e. llinellau melyn sengl/dwbl, baeau i’r anabl, mannau llwytho, ac ati. Caiff cyfyngiadau o'r fath eu cefnogi gan Orchmynion Rheoleiddio Traffig a chaiff Hysbysiadau Tâl Cosb eu rhoi am dorri rheolau parcio sifil cysylltiedig.
  
Prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yw Cadw'n Iach Gartref Cwm Taf.
 
Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn bartneriaeth rhwng sefydliadau Cymru, gan gynnwys cynghorau ac elusennau. Mae'n cydweithio â natur i gynorthwyo â ffyniant amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd Cymoedd De Cymru.
Business Growth
Cynllun ar y cyd sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, Prifysgol De Cymru,Coleg Y Cymoedd a busnesau sydd wedi'u lleoli yn ardal Ystad

Ddiwydiannol Trefforest yw Twf Busnes Trefforest.

 
Dyma gynllun sy'n cael ei gynnal gan YMCA Pontypridd, Cymuned Artis, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf
RedStart
Cynllun ar y cyd sy'n cael ei gynnal gan sefydliadau cyhoeddus/preifat gan gynnwys Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cyngor Merthyr Tudful, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.
Your ponty
Sefydliad di-elw sy'n gyfrifol am fuddsoddi mewn gwelliannau ar gyfer Tref Pontypridd yw Your Pontypridd Ltd.
  
RCT Local nature partnership Butterfly logo
Partneriaeth sy'n ceisio 'Gwarchod a gwella bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf'.