Skip to main content

Partneriaeth Cymunedau Diogel

Cafodd Partneriaethau Cymunedau Diogel eu sefydlu yn sgil Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a roddodd ddyletswydd statudol ar bob ardal Awdurdod Lleol i gael Partneriaeth Cymunedau Diogel.
RCT Community Safety Partnership

Yn 2017, cafodd Bwrdd Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf ei sefydlu, gan uno'r ddau Fwrdd blaenorol (sef Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful) yn Fwrdd unigol sy'n atebol yn uniongyrchol i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf.

Dyma flaenoriaethau Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf:

  • Lleihau effaith camddefnyddio alcohol a chyffuriau ar ein cymunedau
  • Dargyfeirio troseddwyr a lleihau achosion o aildroseddu
  • Mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • Hyrwyddo cymunedau diogel a hyderus
  • Amddiffyn grwpiau sy'n agored i niwed rhag cael eu niweidio a'u herlid
  • Gwella'n hamgylchedd gan leihau trosedd amgylcheddol
Y Newyddion Diweddaraf

Dim canlyniadau yn bodloni eich meini prawf chwilio.