Skip to main content

Carfan 'Cadw'n Iach Gartref' Cwm Taf

 

Gwasanaeth 'Cadw'n Iach Gartref' Cwm Taf

Prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yw Cadw'n Iach Gartref Cwm Taf.  Bwriad y gwasanaeth rhanbarthol newydd yma yw atal pobl rhag cael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiangen ac atal oedi cyn rhyddhau cleifion.

Cafodd y Gwasanaeth Cadw'n Iach Gartref ei sefydlu yn Rhondda Cynon Taf ym mis Ebrill
2017. Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys carfan amlddisgyblaethol sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Siarl. Mae'r garfan yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion a Thechnegwyr Therapi. Bydd y gwasanaeth yn weithredol 7 niwrnod yr wythnos rhwng 8am a 8pm a chaiff gymorth gan amryw sefydliadau yn y gymuned ledled yn rhan o ddarpariaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.