Skip to main content

Consortiwm Canolbarth y De

Consortiwm Canolbarth y De yw'r gwasanaeth gwella ysgolion sy'n gweithredu ar ran pum awdurdod lleol, sef Bro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

Centrat South Consortium

https://www.cscjes.org.uk/

Nod y Consortiwm yw: ‘Gwella deilliannau addysgol i bob plentyn, a gwella deilliannau dysgwyr agored i niwed gyflymaf. Mae llwyddiant ysgolion yn y rhanbarth hwn yn allweddol o ran llwyddiant economaidd a chymdeithasol Cymru at y dyfodol. Rydym yn gwella. Ond mae angen i ni wneud mwy.’

Uchelgais y Consortiwm, erbyn 2020, yw bod:

  • dysgwyr yn cyflawni'r deilliannau addysgol gorau yng Nghymru, fel eu bod nhw cystal â rhannau tebyg o'r Deyrnas Unedig;
  • y bwlch cyrhaeddiad sy'n gysylltiedig â thlodi yn cau'n gyflymach yma nag yn unrhyw le arall yng Nghymru;
  • Caiff y rhanbarth ei chydnabod am ei dysgu broffesiynol ansawdd uchel a arweinir gan ysgolion, ac effaith y ddysg ar ddysgwr.