Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Skip to main content
Toggle navigation
Trigolion
Busnesau
Y Cyngor
Ymwelwyr
Achlysuron
Dod yn rhan o bethau
Newyddion
English
Toggle navigation
Dewislen
Hafan
Teithiau Aur Du
Achlysuron
Caffe Bracchi
Ymweliadau Grŵp
Craft of hearts
Dysgu Gartref
Tocynnau Rhodd
Yr Orielau
Cynlluniwch eich ymweliad
Casgliadau
Newyddion
Hafan
>
Telerau ac amodau
>
Pythefnos y Glowyr ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda - Gwerthu Tocynnau - Telerau ac Amodau
Pythefnos y Glowyr ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda - Gwerthu Tocynnau - Telerau ac Amodau
Does dim modd cael ad-daliad a chewch chi ddim trosglwyddo tocynnau. Bydd tywydd gwael yn effeithio ar yr achlysur. Os bydd raid canslo'r achlysur oherwydd ei bod yn anniogel i barhau, byddwn ni'n cynnig i chi ddod ar ddiwrnod/amser gwahanol. Byddwn ni dim ond yn rhoi ad-daliad i chi os bydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn canslo'r achlysur.
Drwy fynd i mewn i'r atyniad, rydych chi'n cydnabod bod dyletswydd arnoch chi i gymryd camau rhesymol i'ch diogelu'ch hun, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gyflyrau meddygol sy gyda chi.
Rhaid i unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r atyniad dalu ffi mynediad neu fod â thocyn dilys.
Mae'n bosib bydd staff yr achlysur yn gwneud chwiliadau wrth i bobl ddod i mewn i'r atyniad neu ar unrhyw adeg yn ystod yr achlysur. Os ydych chi’n gwrthod chwiliad gan aelod o staff fydd dim modd i chi ddod i mewn i'r achlysur a/neu bydd raid i chi adael.
Dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw sŵn neu ymddygiad a fydd yn aflonyddu, drysu, peri niwsans neu'n cael effaith ar ddiogelwch gwestai eraill neu staff mewn unrhyw ran o'r Atyniad.
Dydyn ni ddim yn caniatáu ysmygu (gan gynnwys ysmygu e-sigaréts) ar y safle. Rhaid i chi wisgo dillad ac esgidiau addas bob amser yn yr achlysur. Dydyn ni ddim yn caniatáu i chi wisgo dillad sy â sloganau gwleidyddol neu anaddas yn yr achlysur.
Dydyn ni ddim yn caniatáu anifeiliaid yn yr Atyniad, heblaw am gŵn tywys.
Does dim hawl dod â photeli neu ganiau o alcohol i mewn i'r atyniad. Bydd amrywiaeth o fwydydd a diodydd ar gael yn yr achlysur.
Dydyn ni ddim yn caniatáu tân gwyllt, fflerau, baneri, polion neu eitemau tebyg yn yr atyniad a fydd dim mynediad i unrhyw un sy'n dod ag un o'r eitemau yma i'r atyniad.
Bydd raid i'r person â thocyn dilys adael yr atyniad os ydy e'n methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau stiward neu unrhyw berson arall sy'n gweithio ar ran Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.
Mae'n bosib bydd ffi weinyddol/ffi cadw lle wrth brynu tocynnau; bydd hyn yn dibynnu ar y Swyddfa Docynnau.
Mae perchennog y tocyn yn caniatáu i ni dynnu lluniau ohono a / neu'i ffilmio ac yn caniatáu i ni ddefnyddio'r lluniau/ffilm ar y cyfryngau cymdeithasol fydd yn weladwy ar draws y byd.
Chewch chi ddim ailwerthu tocynnau, neu’u defnyddio nhw at ddiben cystadlaethau neu becynnau lletygarwch heb ganiatâd ysgrifenedig Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Bydd unrhyw docyn wedi'i ailwerthu neu'i drosglwyddo yn annilys a fydd dim mynediad i berchennog y tocyn neu bydd raid iddo adael yr atyniad.
Rydyn ni'n disgwyl bydd nifer fawr o ymwelwyr yn dod i'r atyniad, felly, mae'n bosibl bydd raid aros am sbel. Er ein bod ni'n gwneud pob ymdrech i'ch gadael chi i mewn i'r atyniad cyn gynted ag y bo modd mae'n bosib bydd raid i chi aros am ychydig.
Byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i gynnig y profiad rydych chi'n ei ddisgwyl, fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser. Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i ddiwygio neu newid elfennau o'r achlysur heb rybudd.
Fydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled neu niwed i eiddo perchennog y tocyn.
Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un i'r atyniad, gwahardd unrhyw un o'r atyniad, neu dynnu unrhyw un o'r atyniad. Does dim rhaid i'r Parc roi ad-daliad i unrhyw un sy'n torri'r telerau ac amodau yma.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.
Browser does not support script.