Skip to main content

Arlwyo Ysgol a prydau Ysgol am ddim

Darparu gwasanaeth o safon, gwerth am arian sy'n cyfrannu tuag at les y gymuned yw ein nod.

Mae ein bwydlenni ar gyfer ysgolion yn dilyn rheoliadau safonau maeth, fel sydd wedi'u nodi yng nghanllawiau Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd

Ym mis Medi 2022, dechreuodd y broses o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd ar draws Cymru, gan gychwyn gyda disgyblion y dosbarth Derbyn. Mae'r polisi'n rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y ddwy flynedd nesaf.

O fewn Rhondda Cynon Taf, bydd y Cyngor yn cyflwyno'r cynnig fel a ganlyn:-

  • O 5 Medi 2022 ymlaen, bydd pob disgybl oedran y Derbyn wedi cael cynnig Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.
  • O fis Ionawr 2023, bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i gynnwys disgyblion Blwyddyn 1.
  • O fis Ionawr 2023, bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i gynnwys disgyblion y Meithrin, sydd yn gymwys.
  • O fis Ebrill 2023, bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i gynnwys disgyblion Blwyddyn 2.
  • O fis Medi 2023, bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i gynnwys disgyblion Blynyddoedd 3 a 4.
  • O fis Ebrill 2024, bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i gynnwys disgyblion Blynyddoedd 5 a 6.

Cwestiynau Cyffredin - Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd

Cwestiynau Cyffredinol – Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd ar gyfer Disgyblion Meithrin

Hawlio prydau ysgol am ddim

Mae'n bosibl i brydau ysgol o ansawdd da gyfrannu'n sylweddol at ddiet y plant a chael dylanwad ar eu hiechyd a'u lles yn gyffredinol. Mae prydau ysgol am ddim, ar gyfer y plant hynny sy'n gymwys, yn cyfrannu at wneud yn siŵr bod y rhan fwyaf o blant yn bwyta o leiaf un pryd o fwyd sy'n gytbwys ac yn faethlon yn ystod diwrnodau'r ysgol – beth bynnag yw incwm eu rheini.

Mae'r un dewis o fwyd ar gael i'r holl ddisgyblion – p'un ai eu bod nhw'n talu neu'n hawlio prydau ysgol am ddim. Bob dydd, bydd gwasanaeth arlwyo ym mhob ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn gweini dewis o brydau poeth, salad, tatws pob a bagéts gyda llenwad, a hyd yn oed becynnau bwyd.

Os ydych chi'n meddwl efallai bod hawl gyda'ch plentyn/plant chi i brydau ysgol am ddim, darllenwch yr wybodaeth sydd ar y dudalen prydau ysgol am ddim.