Nod y clybiau brecwast am ddim yw darparu cyfle i ddisgyblion ysgolion cynradd i gael brecwast iach, am ddim yn yr ysgol bob dydd.
Mae Clybiau Brecwast am Ddim yn darparu brecwast iach i ddisgyblion ysgolion cynradd ar ddechrau'r diwrnod ysgol. Mae pob plentyn sy'n mynychu yn cael tost neu rawnfwyd a sudd ffrwythau cyn mynd i'w dosbarth.
Mae brecwast da yn cynnig nifer o fanteision, gan gynnwys:
- Gwella prydlondeb a phresenoldeb
- Amser i gymdeithasu ac i baratoi disgyblion ar gyfer y diwrnod sydd i ddod
- Gwella'r gallu i ganolbwyntio a gwella ymddygiad
Mae amseroedd cyrraedd/agor y Clybiau Brecwast yn amrywio, felly gwiriwch yr amseroedd yma gyda'ch ysgol.
Bwriwch olwg ar Fwydlen Clwb Brecwast Ysgolion Cynradd
Sut i gyflwyno cais i fynychu Clwb Brecwast
Rhaid cwblhau'r ffurflen gais cyn i blentyn allu fynychu’r Clwb Brecwast.
Cwblhewch ffurflen gais ar gyfer y Tymor Ysgol sydd i ddod
Un cais fesul cartref. Os ydych chi'n cyflwyno cais am nifer o blant, bydd cyfle i nodi sawl plentyn a dewis yr ysgol y mae pob plentyn yn ei mynychu.
Byddwch chi'n derbyn ymateb drwy e-bost ar gyfer pob cais llwyddiannus.
Os ydych chi'n cyflwyno cais ar gyfer plentyn sydd efallai'n gymwys i gael cymorth ychwanegol wrth fynychu'r clwb brecwast, cysylltwch â'r ysgol ar ôl cwblhau'r cais i drafod eu hanghenion.
Nid yw pob ysgol yn gwarantu bod clwb brecwast ar gael i blant y dosbarth Meithrin. Gwiriwch a yw'r opsiwn yma ar gael i chi cyn cyflwyno'r cais.
Mae Cwestiynau Cyffredin ar gael yma