Mae Gwasanaethau Arlwyo RhCT yn darparu bwydlen flasus a maethlon i holl ysgolion yn Rhondda Cynon Taf.
Bwydlenni
*Oherwydd argaeledd cyflenwyr, mae'n bosibl bydd cynhyrchion yn newid.
Gallwn ni hefyd ddarparu ar gyfer deietau llysieuol, fegan a meddygol.
Nodwch: Rydyn ni'n prynu bwyd sydd heb ddatgan cnau fel cynhwysyn. Serch hynny, hyd yn oed gyda mesurau rheoli croeshalogi rhagweithiol, mae nifer o brosesau trin yn y gadwyn gyflenwi yn cyflwyno'r posibilrwydd y bydd olion yn parhau. Does dim modd i ni reoli'r bwydydd y mae cwsmeriaid eraill yn dod â nhw i mewn i'r safle bwyta.
Mae risg weddilliol yn parhau o ran bwyd wedi'i ddarparu gan Wasanaethau Arlwyo RhCT felly 'gall gynnwys olion cnau neu elfennau sy'n deillio o gnau'. Dylai cwsmeriaid sydd ag alergedd cnau ystyried y risg cyn prynu/bwyta unrhyw fwydydd.
Talu am eich cinio ysgol
Pryd Ysgol Uwchradd - £2.80 y dydd
Gallwch bellach dalu ar-lein am brydau ysgol eich plentyn.
Mae ein prydau'n cydymffurfio â gofynion rheoliadau Safonau a Gofynion Maeth Llywodraeth Cymru.
Pam ddylech chi ddewis prydau ysgol?
- Mae ein bwydlenni yn faethlon cytbwys ac o dan reolaeth
- Mae'n arbed amser i rieni/gwarcheidwaid
- Mae gan bob aelod o staff gymhwyster 'Hylendid Bwyd Sylfaenol', fan lleiaf