Partneriaeth Dysgu Cymunedol Rhondda Cynon Taf

Mae'r bartneriaeth yn cyflwyno ystod eang o gyrsiau ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned.  Mae’r holl bartneriaid yn cydweithio’n agos i ddarparu llwybr clir trwy bob lefel o ddysgu, gan gefnogi dysgwyr o bob gallu, o ddechreuwyr i ddysgwyr Lefel 3 a thu hwnt.

Mae modd i bob partner ddarparu gwahanol gategorïau o ddysgu, o gelf a chrefft i gyrsiau achrededig galwedigaethol.

Adult-Community-Learning-Logo

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned RhCT yn cynnig cyrsiau i ddysgwyr ar draws y fwrdeistref sirol, a hynny o ymgysylltu i lefel 3. Caiff cyrsiau eu darparu mewn lleoliadau cymunedol a llyfrgelloedd.

Mae amrywiaeth eang o gyrsiau i ddatblygu llwybrau er mwyn i ddysgwyr ail-ymgysylltu â'u taith ddysgu. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Gwaith a Sgiliau RhCT i atgyfeirio dysgwyr at hyfforddiant sy'n gysylltiedig â chyflogaeth drwy eu Rhaglen Llwybrau at Gyflogaeth.

Adult-Learning-Wales

AOC|ALW yw'r unig ddarparwr Cymru gyfan ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned. 

Mae'r sefydliad yn darparu addysg gymunedol, gan gynnwys datblygu cymunedol a dysgu ar-lein mewn cymunedau ac yn y gweithle. Rydyn ni'n gweithio drwy strwythur cangen leol a thrwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol a gwirfoddol.

Mae’r sefydliad yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu i bobl yng Nghymru sy’n dymuno ail-ymgysylltu ag addysg, yn enwedig y rheini sydd ddim yn dymuno dilyn llwybrau addysg traddodiadol neu sy’n wynebu anfantais.

University-of-South-Wales

Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i gefnogi grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli o unrhyw oedran, cefndir neu grŵp ethnig a sicrhau eu bod yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio mewn modd cefnogol.

Mae PDC yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau blasu rhagarweiniol AM DDIM mewn cymunedau lleol ac ar-lein.  Bwriad y cyrsiau hyn yw magu hyder, helpu eich gyrfa, a darparu ffordd yn ôl i ddysgu ac astudio ymhellach. 

Mae ein cyrsiau ar gael i oedolion dros 18 oed, o bob cefndir.

Careers-Wales

Mae Gyrfa Cymru yn rhoi arweiniad a hyfforddiant yn ymwneud â gyrfaoedd i bobl o bob oed yng Nghymru.  Mae modd i ni eich helpu chi i gynllunio'ch gyrfa, paratoi i gael swydd, dod o hyd i'r prentisiaethau, y cyrsiau a'r hyfforddiant cywir a gwneud cais amdanyn nhw.  Rydyn ni'n rhoi cymorth i ddysgwyr mewn addysg, athrawon a gweithwyr proffesiynol, cyflogwyr, rhieni a gwarcheidwaid. Mae Gyrfa Cymru hefyd yn darparu gwasanaeth Cymru’n Gweithio sy’n rhoi cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd sy'n ddiduedd ac yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn.

Mae modd i Gymru’n Gweithio eich helpu i newid eich stori drwy gynnig cyngor a hyfforddiant ar newid gyrfa.

Coleg-y-Cymoedd-2

Yng Ngholeg y Cymoedd, rydyn ni'n ymroddedig i roi gwybodaeth a set sgiliau amrywiol i'n dysgwyr ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Mae ein hymagwedd unigryw yn canolbwyntio ar wella sgiliau sylfaenol, sgiliau galwedigaethol, a chymwyseddau craidd yn ystod eu taith addysgol. Rydyn ni'n pwysleisio arwyddocâd hyfedredd yn y Gymraeg fel sgil allweddol ar gyfer cyflogadwyedd, gan ei integreiddio’n ddi-dor i’r cwricwlwm. Mae modd i ddysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd ddewis o ystod eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws dros 15 o feysydd cwricwlwm, gan ddarparu ar gyfer galluoedd amrywiol o lefel Mynediad i lefel Gradd.

Multiply

Mae Lluosi yn rhaglen newydd a ariennir gan y llywodraeth, trwy Gronfa Ffyniant

Gyffredin y DU, sy’n cynnig cyrsiau rhifedd am ddim i adeiladu eich hyder gyda rhifau - os oes angen help arnoch i reoli'ch arian, rhoi cymorth i'ch plant gyda'u gwaith cartref neu os ydych chi am symud ymlaen yn y gwaith, mae modd i ni helpu.

Calon-Taf

Canolfan Dreftadaeth ac Addysg yw Calon Taf sy’n darparu cyrsiau a gweithgareddau ym Mharc Coffa Ynysangharad. Mae wedi'i lleoli wrth ymyl y Safle Seindorf sydd wedi'i adnewyddu'n hyfryd, ac mae'n cynnwys ystafell ddosbarth, gardd a thŷ gwydr mawr. Mae modd llogi ein lleoliad hefyd.

Rydyn ni'n cael ein hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, cronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a chyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Trivallis

Rydyn ni'n gymdeithas tai cymunedol cydfuddiannol sy’n eiddo i’n tenantiaid, wedi’i gwreiddio yn ein cymunedau lleol, ac yn gweithio drwy gydweithio a phartneriaeth.

Rydyn ni'n darparu cartrefi i 25,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf a Bae Caerdydd. Ein prif rôl yw darparu cartrefi sy'n ddiogel, yn sefydlog ac yn fforddiadwy i'r bobl sydd â'r angen mwyaf. Fodd bynnag, rydyn ni'n fwy na landlord. Rydyn ni'n sefydliad sy’n eiddo i denantiaid, wedi’i angori’n lleol ac yn gydweithredol.

Mae ein rôl o ran datblygu cymunedol, adfywio cymunedol a lles unigolion wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud.

 

Learn Welsh Cymru Logo

Cyrsiau Cymraeg ar bob lefel o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl, yn ystod y dydd a gyda'r nos ledled RhCT. 

Cyrsiau bloc dwys hyd at wyth wythnos o hyd. Cyrsiau blasu a chyrsiau yn y gweithle.

Menter-Iaith-RCT

Cyrsiau blasu sy'n cael eu cyflwyno i ddysgwyr ledled RhCT trwy gyfrwng y Gymraeg.