Mae Lluosi yn rhaglen newydd sydd â'r nod o helpu oedolion 19 oed a'n hŷn i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd. Mae'n cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau AM DDIM sydd wedi'u cynllunio i wella'ch hyder gyda rhifau.

P'un a hoffech chi help i reoli'ch arian, rhoi cymorth i'ch plant gyda'u gwaith cartref neu os ydych chi am symud ymlaen yn y gwaith, mae modd i ni helpu.

Hoffech chi fynd i sesiynau un-i-un, neu sesiynau grŵp bach cyfeillgar i helpu i fagu hyder a gwella eich sgiliau? Mae modd i'r prosiect eich helpu i wneud hyn a'ch galluogi i ddysgu ar gyflymder sy'n gyfleus i chi.

Cyrsiau

Popty araf

Dechrau defnyddio popty araf

Cyfle i ddysgu sut mae coginio bwyd bendigedig sy'n llawn maeth heb wario gormod o arian. Bydd y cynhwysion a'r offer yn cael eu darparu.

2 awr / 4 wythnos - Ystafell Ddosbarth

Cyflwyniad ar fod yn gymorth i blentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Ar agor i bawb. Cewch ddysgu strategaethau sy'n helpu gydag anghenion ymddygiad a sut i gyflwyno ymyriadau ymddygiad a thechnegau dad-ddwysáu a'u rhoi ar waith.  Bydd Deddf ADY 2021 yn cael ei thrin a’i thrafod yn ogystal â’r newidiadau yn ei sgil i dermau addysgol.

2 awr / 4 wythnos - Ystafell Ddosbarth

Cyflwyniad i Reoli Straen

Esboniad ynghylch pam rydyn ni'n profi straen, a ffyrdd o dawelu meddyliau a theimladau negyddol. Yn rhan o hyn bydd cyfle i drafod sut mae diet iach, ymarfer corff ac ymarferion anadlu a meddylgarwch yn gallu helpu i leihau straen.


2 awr / 4 wythnos - Ystafell Ddosbarth

Therapi Lego

Cyfle i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i helpu plant i weithio gyda'i gilydd i ddatrys heriau. Yn y sesiwn llawn hwyl yma, cewch ddysgu sut i gefnogi plant o ran datblygu sgiliau cyfathrebu, rhyngweithio cymdeithasol, cymryd tro a datrys problemau. Sesiynau ar gyfer oedolion yn unig

2 awr / 4 wythnos - Ystafell Ddosbarth

Sut mae plant yn dysgu drwy chwarae/gemau 

Cewch ddysgu sut mae bod yn gymorth i blant o ran dysgu drwy chwarae a gemau; bydd hyn yn paratoi plant ifainc ar gyfer yr ysgol. Cwrs sy'n annog y dychymyg ac yn gymorth o ran sgiliau llythrennedd a rhifedd.  Adnoddau ar gael.

2 awr / 4 wythnos - Ystafell Ddosbarth

Cyllid o ddydd i ddydd

Cyfle i nodi’r gwahanol fathau o incwm, nodweddion cyfrifon cynilo, gwahanol fathau o wario, opsiynau o ran benthyg, a threth incwm. Cyfle hefyd i ddeall y gwahaniaeth rhwng gwahanol gyfrifon, cyfriflenni banc, termau byd cyllid a chyfloglenni.


2 awr / 4 wythnos - Ystafell Ddosbarth

Deall Hunangyflogaeth

Cyfle i nodi'r gwahaniaeth a gwybod lle i ddechrau arni. Byddwch hefyd yn dod yn fwy effro i'r elfennau treth ac yn dysgu sut i farchnata eich cwmni.

2 awr / 4 wythnos - Ystafell Ddosbarth

Sgiliau Mathemateg Gweithredol

Mae prif themâu mathemateg yn cael eu trafod yn rhan o'r cwrs, megis rhifau, ffracsiynau, degolion, canrannau a chymarebau. Byddwch chi'n dysgu sut i roi’r sgiliau yma ar waith yn eich bywyd bob dydd, wrth ymdrin â materion megis cyllidebu, mesur, cynllunio a datrys problemau. 

2 awr / 13 wythnos - Rhith OR Ystafell Ddosbarth

Microsoft Excel

Dechreuwr / Canolradd: 1 awr yr wythnos am 4 wythnos Uwch: 1 awr yr wythnos am 8 wythnos (Opsiwn ar gael: 2 awr yr wythnos am 4 wythnos)

Dewch i feithrin eich hyder wrth ymdrin â nodweddion a fformiwlâu Microsoft Excel

Ar-lein NEU yn yr Ystafell Ddosbarth

Mathemateg Cyn TGAU 

Cwrs paratoi ar gyfer arholiadau TGAU mathemateg. Bydd y cwrs yma'n canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau rhifyddeg ac algebra sydd eu hangen i gwblhau'r cwrs TGAU mathemateg.

2 awr yr wythnos am 30 wythnos

Deall Trawma

Deall beth yw trawma a'i effaith ar berson. Sut mae modd i drawma effeithio ar ymddygiad, a dysgu strategaethau newydd i ddelio â'i effeithiau.

2 awr / 4 wythnos - Rhithwir neu yn yr Ystafell Ddosbarth

Rheoli Arian

Gwella eich sgiliau rheoli arian y cartref, deall a herio biliau, cymharu prisiau bwyd a nwyddau cartref eraill, a chwilio am y cyflenwyr ynni gorau, gan wneud arbedion. Eich galluogi i wneud penderfyniadau ariannol gwell

2 awr / 4 wythnos - Rhithwir neu yn yr Ystafell Ddosbarth

Cysylltwch â Thîm Lluosi RhCT

Ffôn: 01443 570077

E-bost: Mulitply@rctcbc.gov.uk