Skip to main content

Cyrsiau

Cwrs Addysg i Oedolion yn y Gymuned yw'r cyfle delfrydol i ddysgu sgil newydd, cwrdd â ffrindiau newydd a chael dechrau newydd.

Mae ein tiwtoriaid yn gyfeillgar, yn brofiadol a byddan nhw'n eich croesawu i'n cyrsiau ac yn eich helpu. Mae nifer o'n cyrsiau wedi'u hachredu gan Agored Cymru. Bydd hyn yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch pe baech chi'n dymuno ennill cymwysterau.

Cyrsiau prif ffrwd

Rydyn ni'n cynnal amrywiaeth o gyrsiau sy'n trin a thrafod cynifer o bynciau ag y gallwn ni.

  • Ieithoedd - Iaith Arwyddion, Cymraeg ac ESOL
  • Cyfrifiadura - o Ddechreuwyr i ICDL / defnyddio ffonau symudol a llechi
  • Celfyddydau Creadigol - gan gynnwys Gitâr ac Ysgrifennu Creadigol
  • Hyfforddiant Cyn-Gyflogadwyedd - gan gynnwys Cymorth Cyntaf, Diogelwch Bwyd a Chymorth Cyntaf
  • Hanes - gan gynnwys Hanes Teuluol, Hanes Lleol a Hanes Celf

Camau Dysgu RhCT

Mae'r cyrsiau Camau Dysgu yn rhoi cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu. Mae'r cyrsiau'n annog dysgwyr i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, dysgu ar gyflymder priodol a gweithio gyda thiwtoriaid arbenigol. Mae'r cyrsiau'n wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Cymorth Saesneg a Mathemateg

Rydyn ni'n cynnig y cyfle i wella eich sgiliau Digidol, Saesneg a Mathemateg mewn awyrgylch cefnogol gyda thiwtor profiadol a chyfeillgar. Mae cyrsiau'n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn a chewch chi ymuno unrhyw bryd.

Lluosi

Mae Lluosi yn rhaglen newydd a ariennir gan y llywodraeth, trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cynnig cyrsiau rhifedd am ddim i adeiladu eich hyder gyda rhifau - os oes angen help arnoch i reoli'ch arian, rhoi cymorth i'ch plant gyda'u gwaith cartref neu os ydych chi am symud ymlaen yn y gwaith, mae modd i ni helpu.

Efallai y bydd modd i ni ddarparu ein cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd – rhowch wybod i ni os oes gyda chi ddiddordeb mewn cyrsiau cyfrwng Cymraeg pan fyddwch chi'n cofrestru. *

Gallwch gofrestru drwy ymweld

Mae modd dod o hyd i lyfrynnau ym mhob llyfrgell ac adeilad RhCT ledled RhCT

Alternatively paper enrolment forms are also available.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar unrhyw un o’r cyrsiau, cysylltwch â ni:

Ffôn: 01443 570077

Ebost: AddysgOedolion@rctcbc.gov.uk

Dyddiadau Tymor

TymorDechrauDiwedd

Diwrnod Cyntaf

4 Medi 2023 (Llun)

 

Gwyliau Hanner Tymor yr Hydref

30 Hydref 2023 (Llun)

3 Tachwedd 2023 (Gwe)

Gwyliau'r Nadolig

25 Rhagfyr 2023 (Llun)

5 Ionawr 2024 (Gwe)

Gwyliau Hanner Tymor y Gwanwyn

12 Chwefror 2024 (Llun)

16 Chwefror 2024 (Gwe)

Egwyl y gwanwyn

25 Mawrth 2024 (Llun)

5 Ebrill 2024 (Gwe)

Gwyliau Hanner Tymor yr Haf

27 Mai 2024 (Llun)

31 Mai 2024 (Gwe)

Egwyl yr haf

23 Gorffenaf 2024 (Llun)

30 Awst 2024 (Gwe)