Skip to main content

Mae'n amser cyHO-HO-HOeddi... y bydd Ogof Siôn Corn yn dychwelyd i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda!

STM223

Rydyn ni wedi derbyn llwyth o negeseuon felly rydyn ni wrth ein boddau i roi gwybod y bydd Ogof Siôn Corn yn dychwelyd i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda unwaith eto eleni o 23 Tachwedd tan Noswyl Nadolig!

Bydd pob tocyn i Ogof Siôn Corn yn cynnwys taith dywys i ddod o hyd i Siôn Corn.  Bydd gweithwyr yr ogof yn mynd ag ymwelwyr dan ddaear ar daith i ddod o hyd i'r dyn ei hun.  Bydd pethau Nadoligaidd gwych i'w gweld a'u gwneud ar hyd y ffordd a byddwch chi'n sicr o fwynhau hwyl yr ŵyl...

Bydd tocynnau ar gael ar  www.parctreftadaethcwmrhondda.com o 10am ddydd Mercher 11 Medi a phris tocynnau fydd £5 ar gyfer plant rhwng 0 ac 18 mis a £12.50 ar gyfer plant eraill ac oedolion.
Pris tocynnau Noswyl Nadolig fydd £6 ar gyfer plant rhwng 0 ac 18 mis a £13.50 ar gyfer plant dros 18 mis ac oedolion.

Mae helfa hudol dan ddaear i ddod o hyd i Siôn Corn, yn ogystal â chyfle i gwrdd â'r dyn ei hun, wedi'u cynnwys ym mhris y tocyn.  Ar ôl i'r plant fynd i weld Siôn Corn, bydd modd iddyn nhw fynd i Siop Deganau Siôn Corn a dewis anrheg i fynd â hi adref gyda nhw.  Mae'r anrheg hefyd wedi'i chynnwys ym mhris y tocyn.

Mae teithiau tawel ar gael eto eleni ar 4 ac 11 Rhagfyr a bydd modd cadw lle ar y teithiau yma ar-lein hefyd, ar www.parctreftadaethcwmrhondda.com.

Bydd modd prynu lluniau gyda Siôn Corn a chofroddion o'ch ymweliad yn y siop deganau.  Nodwch y bydd raid talu cost ychwanegol am y rhain.

Yn ogystal â hyn i gyd, gall ymwelwyr fwynhau hwyl yr ŵyl yn ein siop gwin cynnes a byrbrydau.

Mae Siôn Corn wrth ei fodd yn croesawu grwpiau ysgol a phris y tocynnau yma fydd £10 y plentyn. Caiff athro/athrawes docyn am ddim ar gyfer y 10 plentyn cyntaf yn y grŵp, a phris tocynnau ychwanegol i athrawon/oedolion fydd £5.25.  Nodwch y bydd angen tocyn ar bawb sy'n mynd ar y daith.

Mae modd i ysgolion a grwpiau brynu tocynnau drwy ffonio’r dderbynfa ar 01443 682036.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

Am un mis y flwyddyn, mae Ogof Siôn Corn yn troi Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn brofiad Nadoligaidd hudol i blant ac oedolion.  Mae ymwelwyr yn dod yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn i ymuno â gweithwyr yr ogof i ddod o hyd i Siôn Corn. Mae hyn wir yn dangos ansawdd yr achlysur, a'r holl hwyl y mae ymwelwyr yn ei chael!  Mae tocynnau'n gwerthu'n gyflym ond mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar agor ar gyfer teithiau ac achlysuron eraill drwy gydol y flwyddyn. Felly, byddwn i'n annog trigolion ac ymwelwyr i ddilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y lleoliad i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf. 

Wedi ei bostio ar 06/09/24