Skip to main content

Dathlu Dysgu Cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf

Eisteddfod 2024 resize

Cynhaliodd Gwasanaeth Addysg a Chynhwysiant RhCT achlysur dathlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddar, yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd a fu’n myfyrio ar gyflawniadau addysg cyfrwng Cymraeg a datblygiadau’r Gymraeg yn y sir.

Lansiodd y Cyngor ei fideo hyrwyddo 'Taith Iaith' cyfrwng Cymraeg yno hefyd. Roedd yr achlysur yn gyfle perffaith i ddiolch i’n penaethiaid, aelodau ein cyrff llywodraethu a rhanddeiliaid amrywiol eraill, sydd wedi darparu cefnogaeth amhrisiadwy wrth fynd ar drywydd ein dyhead ar y cyd i wella addysg Gymraeg a buddsoddiad yn y sector.

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSCA 2022-2032) yn darparu’r cynllun trosfwaol ar gyfer datblygiadau strategol, ac mae gwaith partneriaeth effeithiol yn hanfodol i’w lwyddiant a’i welliant parhaus. Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y disgyblion ym Mlwyddyn 1 sy’n cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg gwerth 10% dros gyfnod o 10 mlynedd, ac rydyn ni wedi canolbwyntio'n benodol ar gynyddu nifer y plant meithrin a 5 oed sy’n manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi buddsoddi tua £6 miliwn mewn lleoliadau gofal plant a blynyddoedd cynnar ar draws 8 safle ysgol. Mae’r Gwasanaeth Trochi Cymraeg sydd newydd ei sefydlu hefyd yn darparu cymorth i ddisgyblion ym mlynyddoedd 2-6 i gefnogi hwyrddyfodiaid i gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg. 

Mae dros £50 miliwn hefyd wedi'i fuddsoddi yn y sector cyfrwng Cymraeg drwy ein rhaglen moderneiddio ysgolion a rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi cynnwys buddsoddi mewn dwy ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer Ysgol Awel Taf ac Ysgol Llyn y Forwyn, gyda chynlluniau pellach ar y gweill ym mis Medi 2024 i ymgynghori ar agor ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Llanilid.

Bu’r garfan Addysg yn rhannu stondin gyda phedwar clwstwr cyfrwng Cymraeg o bob rhan o’r Sir a Chonsortiwm Canolbarth y De, a rhoddodd hyn gyfleoedd i deuluoedd siarad yn uniongyrchol â swyddogion addysg a staff ysgolion a dathlu llwyddiannau ein 19 ysgol cyfrwng Cymraeg, gyda llawer o gyn-ddisgyblion, disgyblion presennol a staff yn ymweld drwy gydol yr wythnos.

Roedd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru yn bresennol am sesiwn holi ac ateb gan amlygu pwysigrwydd ei chefndir Cymraeg a sut mae hyn wedi ei harwain at ei rôl yn sefydliad BBC Cymru. Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb hefyd gydag Alun Saunders, sydd wedi cyfieithu'r llyfrau 'Heartstopper' i'r Gymraeg yn ddiweddar. Gwahoddodd Cyhoeddiadau Gwasg Rily – oedd â’r hawl i gyfieithu’r llyfr – Ysgol Llanhari i lansio’r llyfr newydd ‘Curiad Coll 2’ (ail gyfres ‘Heartstopper’) ar y stondin a holi cwestiynau i Alun Saunders am y llyfr. Bu Ysgol Llanhari hefyd yn dathlu 50 mlynedd o addysg Gymraeg ar y stondin gan wahodd disgyblion a staff y gorffennol a’r presennol i ymuno yn y dathliadau.

Bu Gwasanaeth Cerdd y Cyngor hefyd yn weithgar drwy gydol yr Eisteddfod gan gymryd rhan mewn cystadlaethau a pherfformiadau yn ystod yr wythnos. Bu Menter Iaith a’r Gwasanaeth Cerdd yn gweithio gyda’r pedair ysgol uwchradd Gymraeg cyn yr Eisteddfod i ffurfio bandiau Cymraeg a fu’n perfformio yng Nghaffi Maes B. Bu llawer o ysgolion RhCT yn cystadlu a pherfformio ar y gwahanol lwyfannau gan adlewyrchu’r dalent aruthrol sy’n bodoli o fewn ein hysgolion, ein cymunedau a thu hwnt.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Roedd yn gyfle gwych i’n Cyfadran Addysg a’n hysgolion ddangos llawer o ddatblygiadau cadarnhaol yn y Cyngor ac ar draws ein hysgolion yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ac i dreiddio’n ddyfnach i weithrediad Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Mae'n bwysig iawn i ni ein bod ni'namlygu pwysigrwydd addysg Gymraeg a’r iaith ei hun. Mae’r Eisteddfod wedi rhoi cyfle gwych i amlygu’r dalent sy’n bodoli o fewn ein hysgolion a’n cymunedau, ac rwy’n falch iawn o’r holl ddisgyblion ac athrawon a aeth ati i berfformio a chynrychioli ein hysgolion a’n cariad cyffredin at y Gymraeg.”

Meddai Gaynor Davies – Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg ac i dyfu’r Gymraeg, a bu buddsoddiad sylweddol yn y sector er mwyn gwireddu’r dyhead yma. Mae'r Cyngor wedi elwa'n sylweddol o wahanol ffrydiau cyllid grant allanol. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Chabinet y Cyngor am gefnogi’r buddsoddiadau hyn drwy’r sector addysg yng Nghymru. Mae gan y Cyngor raglen moderneiddio ysgolion hynod uchelgeisiol ac mae buddsoddiadau diweddar wedi rhoi sylfaen gadarn i adeiladu arni wrth i ni barhau ar ein taith i gynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050.”

Wedi ei bostio ar 29/08/2024