Skip to main content

Mae Rhialtwch Calan Gaeaf yn dych

spook 1rs

Mae Rhialtwch Calan Gaeaf yn dychwelyd i Daith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar 29 a 30 Hydref!

Mae'r achlysur ffang-tastig i blant yn llawn gweithgareddau ac mae sioe newydd sbon ar thema Calan Gaeaf yn cael ei hychwanegu eleni am ragor o hwyl a sbri! Mae 7 gweithgaredd gwych wedi'u cynnwys ym mhris y tocyn.....

  • Pigwch eich pwmpen eich hun yn y Bwmpenfa
    Ewch am dro drwy ein Pwmpenfa er mwyn dod o hyd i'ch pwmpen berffaith. Ewch â'r bwmpen adref i'w cherfio a gwneud iddi edrych yn ddychrynllyd! (Un bwmpen ar gyfer pob tocyn plentyn sy'n cael ei brynu)
  • Helfa Calan Gaeaf
    Mae ein hysbrydion Calan Gaeaf ni wedi dianc ac eich swydd chi fydd chwilio amdanyn nhw! Casglwch y stamp er mwyn derbyn losin (neu lanast) wedi ichi ddod o hyd iddyn nhw i gyd. (Un cerdyn gweithgareddau ar gyfer pob tocyn plentyn sy'n cael ei brynu)
  • Sioe Calan Gaeaf
    Ymunwch â ni yn ein pabell a byddwch yn barod i gael eich diddanu! (Mae croeso i chi weiddi BŴ!)
  • Sesiwn Grefftau
    Dewch i wneud crefftau yn ein gweithdai. Dewch i gael eich ysbryd-oli.....
  • Lluniau hwyl arswydus
    Byddwch yn barod â'ch camerâu i dynnu llun dychrynllyd yn ein detholiad o gyfleoedd lluniau arswydus. Peidiwch ag anghofio tagio @rhonddaheritagepark ar Facebook
  • Adfail y Pwll Glo
    Ydych chi am fentro dan ddaear i adfail y pwll glo? Dewch o hyd i Sgerbydau Swynol, Corynnod Cyfoglyd a llawer yn rhagor wrth i chi fynd ar daith.....bydd Patch y Bwmpen yn aros i ddweud helo ar y diwedd!
  • Ffair Bleser Ffang-tastig
    Mae dwy reid ffair i blant wedi'u cynnwys ym mhris y tocyn.

Bydd tri slot amser ar gael bob dydd:
10am-12pm
12.30pm-2.30pm
3pm-5pm.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: 

Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yw'r lle perffaith i gynnal Rhialtwch Calan Gaeaf. Roedd Adfail y Pwll Glo yn boblogaidd iawn y llynedd gyda phlant yn mynd dan ddaear drosodd a throsodd gan ddod o hyd i rywbeth newydd bob tro! Mae’r atyniad yma, ynghyd â'r Bwmpenfa, Helfa Calan Gaeaf, Sioe Calan Gaeaf newydd sbon a'r holl weithgareddau eraill, yn ffordd wych o fwynhau gwyliau hanner tymor!

Pris mynediad ar gyfer Rhialtwch Calan Gaeaf yw £10 ar gyfer pob plentyn sy'n cymryd rhan a £3.50 ar gyfer pob oedolyn.
Mae tocynnau ar weth nawr yma.

Wedi ei bostio ar 03/09/24