Skip to main content

Cymerwch ran yn Rasys Nos Galan 2024!

Nos Galan 2024 Registration Pic resized

Dyma'r newyddion y mae rhedwyr y ras hwyl a'r rhedwyr elît wedi bod yn aros amdanyn nhw! Bydd modd cofrestru ar gyfer Rasys byd-enwog Nos Galan yn Aberpennar ddydd Llun 16 Medi am 10am!
Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, bydd lleoedd ar gyfer cymryd rhan yn cael eu rhyddhau fesul cam, a hynny er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cyfle i gadw lle.

Heidiwch i strydoedd Aberpennar ar Nos Galan ac ymuno ag un o achlysuron chwaraeon mwyaf unigryw a mwyaf nodedig Cymru! Bydd modd cofrestru ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Llun 16 Medi am 10am
  • Dydd Llun 23 Medi am 12pm
  • Dydd Llun 30 Medi am 6pm

Y categorïau rasio ar y noson yw:

Ras Dynion Elît 5km
Ras Menywod Elît 5km
Ras Hwyl 5km (gwisg ffansi yn ddewisol)
Rasys 600 metr i blant – 8 i 9 oed a 10 i 11 oed
Rasys 1.2km i blant - 12 i 13 oed a 14 i 15 oed.

Bydd modd cofrestru ar-lein yn www.nosgalan.co.uk

Mae hi'n bendant yn Nos Galan unigryw, wrth i filoedd o wylwyr ddod draw i gefnogi'r rhedwyr, mwynhau'r adloniant a'r tân gwyllt a chroesawu'r rhedwr dirgel! Pa seren byd chwaraeon fydd yn ymuno â ni yn 2024?

Mae'r achlysur yn dechrau gyda'r rasys i blant, cyn croesawu'r Rhedwr Dirgel enwog sy'n cario ffagl Nos Galan a'i thanio yng nghanol y dref. Roedd dau redwr dirgel yn 2023 – Gareth Thomas CBE a Laura McAllister CBE. Mae rhedwyr dirgel blaenorol yn cynnwys Linford Christie, Nigel Owens, Chris Coleman a James Hook. Yn dilyn y cyffro o groesawu'r rhedwr dirgel, bydd yr arddangosfa tân gwyllt yn goleuo'r awyr. Daw'r noson i ben gyda'r ras hwyl a'r rasys i redwyr elît – mae wir yn noson wych i bawb!

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Rasys Nos Galan:

Mae galw mawr am leoedd ar gyfer Rasys Nos Galan bob blwyddyn – ac rydyn ni'n croesawu rhedwyr o bedwar ban byd! Wrth i'r achlysur ddathlu ei ben-blwydd yn 66 oed, rydyn ni'n rhagweld y bydd lleoedd yn gwerthu'n gyflym unwaith eto. Dyma annog y rheiny sy'n dymuno cymryd rhan i wneud nodyn o'r dyddiadau ac amseroedd y caiff y tocynnau eu rhyddhau. Wrth gwrs, mae croeso cynnes i gefnogwyr ddod draw i fwynhau'r awyrgylch anhygoel a bydd y system parcio a theithio ar waith unwaith eto er mwyn gwneud teithio i ganol y dref mor hawdd â phosibl. Bydd rhagor o wybodaeth am Rasys Nos Galan yn cael ei rhyddhau yn y cyfnod cyn yr achlysur, felly dilynwch gyfrif 'Nos Galan Road Races' ar Facebook a X (Twitter) ac ewch i www.nosgalan.co.uk i gael y newyddion diweddaraf. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu trigolion ac ymwelwyr ar Nos Galan.

Os ydych chi'n berchennog busnes ac yn dymuno ei hysbysebu ym mhamffled Rasys Nos Galan, e-bostiwch nosgalan@rctcbc.gov.uk. Mae cyfraddau hysbysebu yn dechrau ar £48+TAW ac mae'r pamffled yn cyrraedd miloedd o bobl. Mae pecynnau nawdd hefyd ar gael.

Rydyn ni hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi'r gwaith o gynnal Rasys Nos Galan 2024 ar y noson. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, e-bostiwch nosgalan@rctcbc.gov.uk.

 

Wedi ei bostio ar 02/09/2024