Skip to main content

Dyn busnes yn cael DIRWY gwerth dros £1,000 am dipio'n anghyfreithlon

Mae dyn busnes lleol adnabyddus, sy'n masnachu o dan yr enw ‘Recycling Man’, wedi cael ei ddal a'i anfon i'r llys ar ôl tipio gwastraff yn anghyfreithlon roedd person wedi ymddiried ynddo i gael gwared arno.

Mae Mr Andrew Williams o Stryd y Gloch, Trecynon, yn hysbysebu ei fusnes (Recycling Man) ar Facebook yn rheolaidd, gan nodi ei fod yn cael gwared ar yr holl wastraff yn y ffordd gywir. Serch hynny, yn yr achos yma, cafwyd Mr Williams yn euog o dipio'r gwastraff yn anghyfreithlon ar ôl codi tâl ar berson i gael gwared ar y gwastraff yn y ffordd gywir.

Penderfynodd Mr Williams ddifetha ei ardal leol ac aeth ati i dipio gwastraff yn anghyfreithlon ar Heol y Plwyf, Rhigos, oherwydd cytunodd i ymgymryd â'r gwaith ar ei ben ei hun am £100. Yn y llys, fe wnaeth gyfaddef bod cynnwys y sied yn fwy nag yr oedd wedi disgwyl ac roedd y gwaith wedi cymryd mwy o amser. Doedd e ddim wedi sylweddoli faint o waith roedd angen ei wneud a doedd dim modd mynd â'r gwastraff i unrhyw gyfleuster oherwydd roedd hi'n rhy hwyr.

Mae gweithredoedd bwriadol Mr Williams yn yr achos yma yn tanseilio enw da cwmnïau gwastraff cyfreithlon ac maen nhw hefyd wedi achosi effaith niweidiol ar yr amgylchedd lleol ac wedi arwain at ddefnyddio arian trethdalwyr i lanhau'r gwastraff. Roedd yr unigolyn anystyriol yma eisiau cael gwared ar ei sbwriel yn y ffordd hawsaf bosibl, heb boeni am achosi problem i bawb arall!  

Dydy Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ddim yn dadlau'r ffaith bod Mr Williams yn gludydd gwastraff cofrestredig gyda Chyfoeth Naturiol Cymru na'r ffaith ei fod fel arfer yn cael gwared ar wastraff mewn safle cofrestredig. Serch hynny, yn yr achos yma, penderfynodd gael gwared ar y gwastraff mewn ffordd anghyfreithlon.

Yn anffodus i Mr Williams, dydyn ni DDIM yn goddef unrhyw daflu sbwriel na thipio'n anghyfreithlon. Arweiniodd ein gwaith ymchwil ni'n syth ato. Does yna FYTH ESGUS! 

Er gwaethaf Swyddogion Gorfodi'r Cyngor yn dangos y dystiolaeth amlwg i Andrew Williams, gwadodd dipio'r gwastraff yn anghyfreithlon ond doedd e ddim yn gallu esbonio sut y daethpwyd o hyd i wastraff yn y lleoliad.

Gofynnwyd i Mr Williams ddarparu nodiadau trosglwyddo ar gyfer yr holl wastraff roedd wedi'i dipio adeg y drosedd a methodd â'u darparu. O ganlyniad i'r dystiolaeth amlwg yn ei erbyn, cafodd achos Mr Williams ei drosglwyddo i'r llys, a hynny ar gyfer cael gwared ar wastraff mewn ffordd anghyfreithlon o dan Adran 33 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.  

Mae Adran 33 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn nodi gwaharddiad ar dipio, trin neu gael gwared ar wastraff mewn modd anawdurdodedig.  Bydd unrhyw un sy'n methu â glynu wrth y ddeddf yma'n wynebu dirwy fawr, yn yr un modd â'r tipiwr anghyfreithlon yn yr achos yma! 

Aeth Mr Williams i'r llys ar 7 Awst gan bledio'n euog i dipio'n anghyfreithlon. Cafodd Orchymyn Cymunedol 12 mis – 100 o oriau o waith di-dâl, gorchymyn i dalu costau gwerth £1,001.51 a gordal dioddefwr gwerth £114 – sef cyfanswm o £1,115.51.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf:  "Fyddwn ni BYTH yn goddef tipio'n anghyfreithlon. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, ein strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff, a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif. 

"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB adroddiad am dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion fel y dysgodd y troseddwr yma. 

"Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd bob blwyddyn. Dylai'r arian yma gael ei wario ar wasanaethau allweddol y rheng flaen yn ystod cyfnod pan fo pwysau mawr ar y gyllideb. 

“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn i gyfrif y rheini sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu waredu mewn Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd heb unrhyw gost ychwanegol."

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o dipio'n anghyfreithlon, materion ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 28/08/24