Skip to main content

Dewch o hyd i gyfleoedd gyrfa yn Ffair Swyddi Cyngor RhCT a'i Bartneriaid 2024!

Jobs-Fair-2024-MAIN-WELSH

Rydyn ni wrth ein boddau i gyhoeddi y bydd ein Ffair Swyddi boblogaidd yn cael ei chynnal ddydd Mercher 25 Medi 2024 yn Llyfrgell Pontypridd, Llys Cadwyn, CF37 4TH, rhwng 10am a 2pm. Bydd 'awr dawel' ar gael rhwng 9am a 10am.

Bydd yr achlysur yn gyfle ichi siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr a gweithwyr, cymryd rhan mewn gweithdai a fydd yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer cyfweliad ac ysgrifennu CV, a dechrau ymgeisio am swyddi ar y diwrnod!

Bydd dros 50 o sefydliadau yn bresennol yn y ffair ac yn awyddus i lenwi swyddi sy'n addas i bawb yn y gymuned yn syth. Bydd rheolwyr gwasanaeth a gweithwyr y Cyngor yno hefyd, o Garfan Gofal Cymdeithasol i Oedolion i Garfan y Cynllun Prentisiaethau a'r Rhaglen i Raddedigion. Byddan nhw'n rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i chi am weithio i Gyngor RhCT!

Os ydych chi’n chwilio am ddechreuad newydd, newid gyrfa, neu rydych chi'n dechrau eich bywyd gwaith, bydd rhywbeth ar eich cyfer chi yn Ffair Swyddi RhCT!

Ar ôl llwyddiant ein ffair swyddi ddiweddaraf ym mis Mawrth, rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu rhagor o gyflogwyr a phobl sy'n chwilio am swyddi i'n ffair swyddi am ddim nesaf.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:

“Mae'r Ffair Swyddi'n parhau i fod yn boblogaidd iawn, ac rydw i'n falch o'i gweld yn helpu cynifer o bobl i gymryd eu cam cyntaf neu'u cam nesaf ar eu taith gyflogaeth!

“Rydyn ni fel Cyngor wedi ymrwymo i roi cyfleoedd i’n trigolion gael mynediad at gyflogaeth o safon. Mae'r Ffair Swyddi'n dod â chyflogwyr lleol ynghyd mewn un lle ac yn dangos ein bod ni, fel Cyngor, am roi cyfle i drigolion gael mynediad at y swyddi yma.

“Mae cymaint ar gael ar y diwrnod. Rydw i'n annog pawb sy’n chwilio am rywbeth newydd, rhywbeth gwahanol, neu sy’n chwilio am eu swydd gyntaf, i alw heibio i edrych ar yr hyn sydd ar gael yn Llys Cadwyn.”

Bydd amrywiaeth eang o bartneriaid o fyd hyfforddiant ac addysg wrth law i roi cyngor ac arweiniad gyrfaol.

Dewch i weld yr amrywiaeth eang o gyflogwyr, gan gynnwys:

Canolfan Cyngor ar Bopeth

Yr Urdd

Catalyddion Cymunedol

Thrive Group Wales

Simbec Orion

Prichard’s

R&M Williams Cyf

Acorn Recruitment

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Addysgwyr Cymru

MPS Industrial

Tŷ'r Cwmnïau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Gwasanaethau i Blant Cyngor Rhondda Cynon Taf

Swyddi Gwag RhCT

Gwasanaethau Democrataidd RhCT

Trafnidiaeth Cymru

Arc Rail

Apollo Teaching

New Directions

Teacher Active

VES Recruitment

Supply Desk

EE

Papyrus

Edwards Coaches

Screen Alliance Cymru

BBC Cymru Wales

Dŵr Cymru

Marie Curie

Drive

Q Care

Cartrefi

Darparwyr:

Coleg y Cymoedd

ACT

People Plus

Busnes Cymru

Cymru’n Gweithio / Gyrfa Cymru

Cyngor ar Bopeth RhCT

Maethu Cymru

ITEC

Wedi ei bostio ar 05/09/24