Skip to main content

Troi Ponty yn Las ar gyfer Wythnos Gweithredu Dementia 2024

Dementia Action Week

Sefydlwyd Wythnos Gweithredu Dementia gan Gymdeithas Alzheimer’s, ac mae'n ymgyrch ranbarthol a blynyddol sy’n cael ei chynnal rhwng dydd Llun, 13 Mai a dydd Sul, 19 Mai. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o ddementia drwy weithio gydag unigolion a sefydliadau ledled y DU i annog pobl i weithredu ar ddementia.

Rhagamcanwyd y bydd dros filiwn o bobl yn byw gyda dementia yn y DU erbyn 2025. Dydy 1 ym mhob 3 o bobl sy’n byw gyda dementia yn y DU ddim wedi cael diagnosis ac mae 91% o bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia yn dweud bod buddion i'w cael o dderbyn diagnosis.

Mae mor bwysig codi ymwybyddiaeth o symptomau ac effeithiau dementia, yn ogystal â sicrhau bod pobl yn gwybod ble mae modd iddyn nhw ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth.

I nodi'r achlysur, mae sawl achlysur yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos yn rhan o ymgyrch 'Troi Ponty yn Las'.  Mae’r ymgyrch wedi’i sefydlu mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a Grŵp Llywio Pontypridd sy’n Deall Dementia – ynghyd â llawer o grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol gan gynnwys Pont-y-clun a Llanharan - a bydd adeiladau ledled y Fwrdeistref Sirol yn cael eu goleuo’n las.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o’r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Materion Pobl Hŷn Cyngor RhCT: “Dementia yw un o’r materion iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf rydyn ni'n ei wynebu heddiw, ac mae modd iddo newid bywydau'r unigolion sydd wedi'u heffeithio a'r rhai sydd agosaf atyn nhw.

“Yn rhan o Wythnos Gweithredu Dementia 2024, rydw i'n falch o roi gwybod y bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf — mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau a grwpiau cymunedol sy’n Deall Dementia — yn cynnal sawl achlysur i godi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at y gweithgareddau sydd ar gael i gefnogi’r unigolion sy’n byw gyda dementia.

“Rydw i hefyd yn falch o ddweud bod gyda ni nifer o sefydliadau a fydd yn goleuo adeiladau a henebion i nodi ymgyrch Wythnos Gweithredu Dementia eleni.

“Trwy weithio’n agos gyda phartneriaid allweddol, gallwn ni barhau i sicrhau bod Rhondda Cynon Taf yn gymuned sy'n deall dementia, bwrw ymlaen â’r gwaith tuag at godi ymwybyddiaeth, a sicrhau bod modd i'r unigolion sydd wedi'u heffeithio gan ddementia fanteisio ar gefnogaeth hanfodol i wella eu hiechyd meddwl a’u lles.”

Achlysuron Lleol

Drwy gydol yr wythnos

  • Mewn partneriaeth â Caru Treorci, mae Clwb Rotari Cwm Rhondda yn cynnig cynnal cystadleuaeth i 'ddod o hyd i'r blodyn Dementia' yn ffenestri siopau Treorci yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia.

Dydd Llun, 13 Mai

  • Te Prynhawn Cylch Trafod 50+, Clwb Athletau Pont-y-clun, 2-4pm

Dydd Mercher, 15 Mai

  • YMa — Neuadd Shelley 
    • Araith agoriadol am 11am - Y Cynghorydd Caple
    • Perfformiad ar y delyn gan Bethan (diolch i Trac Cymru)
    • Stondinau gwybodaeth a gweithgareddau, gan gynnwys gweithgareddau gan Interlink / Cylchoedd Trafod 50+ a Chwmni Buddiannau Cymunedol Growing Space Pontypridd (drwy gydol y dydd)
    • Coeden Atgofion ac Amser i Fyfyrio (trwy gydol y dydd)
    • Côr Tenovus 2.20pm
  • YMa - Ystafelloedd Eraill
    • Clwb Crosio 10am - Hanner dydd
    • Hiraethu/Atgofion/Gludwaith Glas 10.30am - Hanner dydd
    • Gweithdy Brodwaith Denim Dwbl 12pm - 2pm
    • Sesiwn Crochenwaith gyda Still Me (Ystafell Grefftau) 12.15pm - 2pm
  • YMa – Theatr Moon 
    • Perfformiad ar y delyn / Gweithdy gyda Bethan (diolch i Trac Cymru) 11.30am - 2.30pm
  • Llyfrgell Pontypridd
    • Hen luniau a Stondinau Gwybodaeth – Carfan Eiddilwch Clwstwr Meddygon Teulu Taf-elái 10am – 2pm
  • Amgueddfa Pontypridd
    • Gweithgareddau gan gynnwys Cwrlo Dan Do a Golff Dan Do 11.30am - 12.30pm
    • Perfformiad ar y delyn / Gweithdy gyda Bethan (1.15pm - 2pm)
  • Parc Coffa Ynysangharad a Chanolfan Calon Taf 
    • Dawns Te a Gweithgaredd Symud a Chamu â thema'r 1950au gyda Charfan Gwasanaeth Cof Taf-elái 10am - 2pm
    • Taith Gerdded Treftadaeth Calon Taf 11am

Dydd Iau, 16 Mai

  • Sesiwn Cyfeillion Dementia yn Eglwys y Bedyddwyr Bethel, 6.30pm
  • Canu ar gyfer yr Ymennydd, cwrdd yng Nghanolfan y Gymuned a chanu y tu allan i’r Deli/Fferyllfa (os bydd y tywydd yn braf), 10-11.30am

Dydd Gwener, 17 Mai

  • YMa
    • Sesiwn Symud Gerddorol wrth Eistedd 12.30pm - 1pm
    • Sesiwn Gwylio Ffilm | Mamma Mia 2pm - 4pm

Os hoffech chi ddysgu rhagor am ddementia, mae modd i chi gael mynediad at sesiwn ddigidol Cyfeillion Dementia ar-lein AM DDIM.

I ddysgu rhagor am Wythnos Gweithredu Dementia, ewch i: https://www.alzheimers.org.uk/get-involved/dementia-action-week

#WythnosGweithreduDementiaCTM24

Wedi ei bostio ar 13/05/2024