Skip to main content

Pythefnos Gofal Maeth 2024: Rhiant Maeth yn Rhondda Cynon Taf yn 'Cynnig Rhywbeth' i Gefnogi Pobl Ifainc yn yr Ardal

WELSH FCF

Y Pythefnos Gofal Maeth™ yma, mae Maethu Cymru Rhondda Cynon Tafyn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn rhieni maeth i gefnogi pobl ifainc mewn angen.

Canfu ymchwil diweddar gan Faethu Cymru – y rhwydwaith cenedlaethol gwasanaethau maethu awdurdod lleol – bod pobl yn aml yn amharod i wneud cais i ddod yn rhiant maeth gan nad ydyn nhw'n credu eu bod nhw â'r sgiliau a'r profiadau 'addas'.

Yn eu llyfr coginio newydd –  Gall pawb gynnig rhywbeth  – mae Maethu Cymru yn tynnu sylw at y pethau syml y mae modd i rieni maeth eu cynnig – megis sicrwydd pryd o fwyd rheolaidd, amser teulu o amgylch y bwrdd bwyd, a chreu ffefrynnau bwyd newydd.

Mae ganGall pawb gynnig rhywbeth’ dros 20 o ryseitiau, gan gynnwys ryseitiau o'r gymuned gofal maeth a chogyddion enwog.

Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans; Beirniad Young MasterChef, Poppy O'Toole; a'r gogyddes/awdures, Colleen Ramsey, i gyd wedi cyfrannu ryseitiau. Hefyd wedi'i chynnwys y mae'r athletwraig Olympaidd a'r ymgyrchydd gofal maeth, Fatima Whitbread, sydd â phrofiad o dderbyn gofal maeth.

Ychwanegodd cyn-gystadleuydd Great British Bake-Off, Jon Jenkins, a'r digrifwr Kiri Pritchard Mclean, ryseitiau hefyd - gan dynnu ar eu profiadau personol fel rhieni maeth.

Mae Tracy a Lee wedi bod yn maethu plant gyda Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf ers dros 20 mlynedd. Maen nhw wedi gofalu am dros 45 o blant lleol, ac maen nhw'n gweithio'n galed i helpu i gefnogi rhieni maeth eraill. Maen nhw wedi gwneud rhywfaint o ffilmio gyda ni yn ddiweddar lle maen nhw wedi sôn am bwysigrwydd bod yn hyblyg fel rhieni maeth, a chynnig sefydlogrwydd i blant hefyd. 

Dywedodd Tracy wrthon ni:

"Gall fod yn rhywbeth syml megis eistedd i lawr am bryd o fwyd gyda'ch gilydd bob dydd Sul, neu wybod bod bob nos Iau yn noson y mae modd i chi ddod ag unrhyw beth sy'n eich poeni chi, neu unrhyw beth rydych chi wedi'i fwynhau, i'r bwrdd bwyd yr wythnos honno. Mae modd i rannu amserau bwyd a phatrymau bwyta rheolaidd fod yn help gwirioneddol o ran darparu trefn a sefydlogrwydd i blant ac mae'n pwysleisio ein bod ni'n gwneud pethau fel teulu. Os ydych chi'n byw gyda ni, rydych chi'n un ohonom ni!  

Mae dwy ferch ifanc yn byw gyda ni nawr, ac maen nhw am fyw gyda ni am y tymor hir. Aethon ni â nhw i fwyty am bryd o fwyd i ddathlu pen-blwydd yn ddiweddar. Mae teulu yn bwysig iawn i ni, felly rydyn ni'n mynd gyda'n gilydd, yn union fel rydyn ni'n mynd ar wyliau gyda'n gilydd.

Uchafbwynt hynny oedd y cawson ni ginio bendigedig! Treulion ni awr a hanner yno yn chwerthin ac yn sgwrsio – yn bod yn deulu. Roedd cwpl arall yno yn eistedd gyferbyn â ni, ac wrth iddyn nhw adael y bwyty dywedodd hi wrtha i 'Rhaid i mi ddweud wrthoch chi, mae eich plant yn glod chi...

Maen nhw'n hapus iawn.' Meddyliais, waw - doedd neb yn gwybod yn wahanol bod yna 4 o blant yno nad ydyn nhw'n fy mhlant i fy hunan, ond rwy'n eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw fel fy mhlant fy hun. Roedd y ffaith bod modd iddyn nhw fod mewn bwyty a mwynhau’r bwyd a’r profiad gyda ni fel rhan o’n teulu ni'n foment yn fy siwrnai faethu a fydd wir yn aros gyda mi."

Mae pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn rhannu profiadau go iawn.

Er mwyn lansio'r llyfr, bydd Colleen Ramsey, awdur 'Bywyd a Bwyd, Life Through Food', yn cynnal gweithdy coginio i bobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal i ddysgu rysáit newydd a sgiliau coginio hanfodol y bydd modd iddyn nhw eu defnyddio yn eu bywydau annibynnol yn y dyfodol.

Mae pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal hefyd wedi chwarae rhan fawr yn natblygiad y llyfr coginio.

Sophia Warner, darlunydd o Gymru, ymgyrchydd, a pherson ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, a ddarluniodd y llyfr coginio ac ysgrifennodd ragair y llyfr.

"Pan oeddwn i'n iau, rydw i'n cofio herio fy rhiant maeth am darddiad y bwyd roedd hi'n ei chyflwyno i mi, gan fynnu bod y bwyd yn hanu o Aberhonddu, sef man cychwyn fy mhlentyndod i. Ysgrifennais 'Brecon Bolognese' ar gyfer y llyfr coginio, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth.

"Mae'r rysáit yma â lle pwysig yn fy nghalon i gan mai dyma'r pryd cyntaf a gefais pan symudais i fy nghartref maeth. Soniais fod fy mam enedigol yn arfer ei goginio i mi, ac felly fe barataodd fy mam faeth ef i mi. Wrth i mi eistedd wrth y bwrdd bwyd gyda fy nheulu maeth newydd, roeddwn i'n teimlo ymdeimlad o berthyn a chynhesrwydd, gan wneud i mi deimlo'n groesawgar iawn."

Mae angen rhagor o deuluoedd maeth ledled Cymru

Bob mis Mai, cynhelir Pythefnos Gofal Maeth™, ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Y gobaith yw codi ymwybyddiaeth o’r angen am ragor o rieni maeth.

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant â phrofiad o dderbyn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Mae Maethu Cymru wedi nodi nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 er mwyn darparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifainc lleol.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol

"Mae'r llyfr coginio yma’n ffordd wych i rieni maeth, plant sy'n derbyn gofal, a'r rheiny a gafodd eu maethu'n flaenorol ddod at ei gilydd a gweithio ar brosiect creadigol a gwerth chweil.

"Mae'r llyfr coginio yn arddangos sgiliau bywyd allweddol y mae pobl ifainc eu hangen i fyw bywydau annibynnol ac mae'n tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae rhieni maeth yn ei chwarae wrth sicrhau bod modd i'r unigolion yma ddatblygu'r sgiliau yma mewn amgylchedd gofalgar a chariadus.

"Ymhellach at hyn, mae'r llyfr coginio yn arwyddocaol wrth ledaenu'r neges am waith anhygoel rhieni maeth ac ysbrydoli eraill i weithredu, naill ai trwy ddod yn deuluoedd sy'n gyfeillgar i faethu neu gefnogi'r rhai o'u cwmpas sy'n ymwneud â maethu.

"Hoffwn i achub ar y cyfle yma i ddiolch i'n holl rieni maeth am y gwaith hunanol ac ysbrydoledig y maen nhw'n ei wneud. Rydych chi'n hanfodol i sicrhau bod pobl ifainc sy'n agored i niwed yn cael mynediad at fagwraeth ddiogel a chariadus.

"Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan yr ymgyrch yma yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, yna rwy'n eich annog chi i gael gwybod rhagor o wybodaeth ac archwilio sut y mae modd i chi gyfrannu at y genhadaeth faethu yng Nghymru."

Bydd y llyfr coginio yn cael ei ddosbarthu i rieni maeth ledled Cymru ac mae modd lawrlwytho fersiwn digidol yn: gall pawb gynnig rhywbeth - maethu cymru (llyw.cymru)

I gael gwybod rhagor am ddod yn rhiant maeth yng Nghymru, ewch i maethucymru.llyw.cymru

Nodiadau i'r golygyddion

Mae cyfweliadau ar gael gyda chynrychiolwyr o Faethu Cymru a phobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal drwy gydol Pythefnos Gofal Maeth.

Am ragor o wybodaeth neu geisiadau gan y cyfryngau, e-bostiwch elouise@wearecowshed.co.uk / georgia@wearecowshed.co.uk

 Ynglŷn â Phythefnos Gofal Maeth

  • Pythefnos Gofal Maeth™ yw ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau.
  • Bydd Pythefnos Gofal Maeth 2024 yn cael ei chynnal rhwng 13 a 26 Mai
  • Y thema yw #MunudauMaethu

Ryseitiau a Chyfranwyr

Ryseitiau pobl enwog

  • Saws 'popeth' Colleen – Colleen Ramsey, cyflwynydd ac awdures y llyfr coginio dwyieithog i'r teulu, Bywyd a Bwyd – Life Through Food
  • Spgahetti arddull teulu Wynne – Wynne Evans, Enillydd MasterChef
  • Rysait Selsig a Llysiau wedi'u pobi Poppy – Poppy O'Toole, Beirniad Young MasterChef
  • Pasteis de Nata Jon – Jon Jenkins, seren Great British Bake a rhiant maeth, Newport
  • Pastai bwythyn teulu Fatima – Fatima Whitebread, MBE, enillydd medal Olympaidd 2x, pencampwr gwaywffon y byd, deiliad record byd, ac ymgyrchydd maethu.
  • Kabsa Cyw Iâr – Mae Kiri Pritchard Mclean yn ddigrifwr a rhiant maeth sy'n byw yn Ynys Môn. Mae ei sioe stand-yp, Peacock, yn rhannu ei phrofiad o fod yn rhiant maeth.

Gadael gofal

  • Brecon Bolognese – Sophia, darlunydd a rhywun sydd â phrofiad o dderbyn gofal, Caerdydd
  • Cacen Gaws June – John, sylfaenydd y Rhwydwaith Profiad o Dderbyn Gofal, Arbenigwr Profiad o Dderbyn Gofal ar gyfer Partneriaeth John Lewis, rhywun sydd â phrofiad o dderbyn gofal, ac aelod o banel rhieni maeth awdurdod lleol annibynnol.
  • Cacen Bysgod Ryan – Ryan, mae â'i fryd ar fod yn gogydd, person ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal
  • Pasta tiwna wedi'i bobi Sam*, person sydd â phrofiad o dderbyn gofal ac aelod o Voices from Care Cymru – grŵp sy'n dod â phobl ifainc ledled Cymru sydd â phrofiad o dderbyn gofal at ei gilydd. Mae modd i unrhyw berson sy’n derbyn gofal neu sydd wedi derbyn gofal yng Nghymru ddod yn aelod.
  • Brownis Oreo – Rhys, cogydd proffesiynol a rhywun sydd â phrofiad o dderbyn gofal

Rhieni Maeth

  • Hash Cornbîff Mam-gu – Ian, rhiant maeth, Conwy
  • Pei caws a chig moch mam-gu – Emily, rhiant maeth, Casnewydd
  • Pizza Cartref Jenny – Jenny, rhiant maeth, Sir y Fflint
  • Pasta arbennig Pete – Pete a Vonda, rhiant maeth, Sir Ddinbych
  • Crymbl Llysiau Gwraidd – Ian, rhiant maeth, Castell-nedd Port Talbot
  • Grefi llysiau cudd – Christine a Mike, rhiant maeth, Bro Morgannwg
  • Pwdin Swydd Efrog Vicky – Vicky, rhiant maeth, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Twmplenni Gorllewin India – Sue, rhiant maeth, Ceredigion
  • Cyrri Gwyrdd Thai – Tracey, rhiant maeth, Castell-nedd Port Talbot
  • Chicken Kadhai (cyrri achlysuron arbennig) – Kanu, rhiant maeth, Gwynedd
  • Swper Eid (Akhni fulab (pilau cig oen) Pwdin Kheer) – Claire, rhiant maeth, Caerdydd
Wedi ei bostio ar 13/05/24