Skip to main content

Adroddiad cynnydd ar waith parhaus yn dilyn Tirlithriad Tylorstown

Tylorstown Landslip 1 - Copy

Mae'r Cyngor wedi darparu diweddariad ar gynllun adfer Tirlithriad Tylorstown, gyda gwaith Cam Pedwar yn mynd rhagddo. Mae'r gwaith presennol yn cynnwys gwaith tir, cludo deunydd y domen sy'n weddill i safle derbyn, adeiladu isadeiledd mewn ardaloedd derbyn a gwaith yn rhan o raglen ddraenio wedi’i hymestyn.

Digwyddodd y tirlithriad ar ochr bryn Llanwynno ym mis Chwefror 2020 yn dilyn glaw digynsail yn ystod Storm Dennis. Achosodd y tirlithriad rwystr ar ddyffryn yr afon, torrodd garthffos, gorchuddiodd bibell ddŵr gyda sawl metr o falurion, a gorchuddiodd lwybr troed a rennir. Mae'r cynllun adfer pedwar cam ar waith ar y safle - gan gynnwys gwaith clirio brys yn yr wythnosau ar ôl y storm (Cam Un).

Cafodd cam dau (atgyweirio'r argloddiau) a cham tri (symud deunydd o'r cwm i safleoedd derbyn ac ailagor llwybrau) eu cwblhau cyn cynnal gwaith ychwanegol i sefydlogi'r llethr. Dechreuodd gwaith yn rhan o gam pedwar (adfer y domen sy'n weddill ar ochr y bryn) yn ystod 2023.

Mae cam pedwar yn cynnwys cael gwared ag oddeutu 195,000m3 o ddeunyddiau sy'n weddill yn Nhomen Uchaf Llanwynno, yn ogystal â chynnal gwaith tirlunio a draenio sylweddol. Bydd yr ardal yn cael ei hailbroffilio gan ddefnyddio 35,000m3 o ddeunyddiau er mwyn gwneud y dirwedd yn fwy gwastad. Bydd y broses yn cynnwys symud tua 160,000m3 o ddeunyddiau ar hyd tramffordd sydd ddim yn cael ei defnyddio mwyach i'r safle derbyn, sydd i'r gogledd o 'Old Smokey'.

Diweddariad - gwanwyn 2024

Mae Prichard's Contracting wedi manteisio ar y tywydd sych diweddar yn ystod y gwanwyn eleni i ailddechrau gwaith tir sylweddol yn y domen - gan gynnwys symud ychydig bach o ddeunydd y domen sy’n weddill i safle derbyn. Yn y cyfamser, mae cynnydd da wedi'i wneud o ran gosod isadeiledd yn rhan o’r ardal dderbyn ehangach, gyda'r holl gydrannau mawr wedi'u hadeiladu. Mae gwaith pellach megis gosod pridd uchaf bellach yn mynd rhagddo.

Mae cynnydd cadarnhaol pellach wedi'i wneud yn Safle Derbyn A2, ar dir i'r de o Heol yr Orsaf. Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ym mis Medi 2023 i gadw 740m3 o ddeunydd o'r tirlithriad yn barhaol, a chynnal gwaith tirlunio a mesurau lliniaru ecolegol ar y darn yma o dir. Mae gwaith plannu wedi'i gwblhau yn ddiweddar, a dyma oedd elfen olaf y gwaith yma.

Mae gwaith draenio sylweddol wedi bod yn cael ei gynnal ers dechrau Cam Pedwar. Yn niweddariad blaenorol y Cyngor, nodwyd bod mwy na 1,500 metr o bibellau draenio wedi'u gosod - gyda'r tywydd gwlyb yn rhoi cyfle i arsylwi ar y newidiadau i lif dŵr a'r ffynhonnau.

O ganlyniad i ffactorau newydd gafodd eu darganfod gan y contractwr wrth i'r gwaith fynd rhagddo, gan gynnwys dŵr yn dod i mewn a newidiadau gyda’r dopograffeg waelodol, roedd rhaid ymestyn y rhaglen ddraenio arfaethedig i gynnwys mesurau lliniaru ychwanegol. Bydd y rhaglen ddraenio’n fwy sylweddol sy’n golygu bydd Cam Pedwar yn dod i ben yn y gaeaf, 2024.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae'r gwaith sylweddol i adfer Tirlithriad Tylorstown wedi parhau drwy dywydd garw'r gaeaf - gyda'r gwanwyn bellach yn dod â thywydd gwell. Bydd y gwaith bellach yn canolbwyntio ar y gwaith tir sylweddol a symud yr ychydig bach o ddeunydd y domen sy’n weddill i safle derbyn. Wedi iddo gael ei gwblhau, bydd yn cynrychioli carreg filltir sylweddol yng Ngham Pedwar. Mae cynnydd ardderchog hefyd wedi'i wneud o ran gwaith adeiladu a gosod isadeiledd yr ardal dderbyn.

“Mae ymestyn y rhaglen ddraenio wreiddiol wedi bod yn angenrheidiol mewn ymateb i ddŵr yn dod i mewn a newidiadau gyda’r dopograffeg - ac mae hyn wedi arwain at ymestyn amserlen darparu Cam Pedwar. Bydd y Cyngor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned yn ystod cerrig milltir allweddol dros y misoedd sydd i ddod, wrth i'n contractwr fanteisio ar dywydd gwell yn ystod y gwanwyn a'r haf wrth fwrw ymlaen.

"Bydd gweithgareddau allweddol eraill yn parhau oddi ar y safle, gan gynnwys sefydlu Grŵp Rheoli Tir er mwyn bwrw ymlaen â chynllun pum mlynedd ar gyfer yr ardal a gweithio gyda Heddlu De Cymru i atal cerbydau oddi ar y ffordd rhag cael mynediad i safleoedd o’r fath yn anghyfreithlon. Mae'r Cyngor hefyd yn parhau i ymrwymo i ddefnyddio'r safle yn rhan o Lwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach yn y dyfodol, fydd yn cynnwys gosod llwybr â wyneb caled drwy'r ardal gydag atgyweiriadau i sawl pont gerllaw."

Mae'r Cyngor yn parhau i groesawu cymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun adfer Tirlithriad Tylorstown drwy Grant Diogelwch Tomenni Glo.

Dysgwch ragor am bedwar cam y gwaith, ac am gynlluniau'r safle yn y dyfodol drwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/TirlithriadTylorstown

Wedi ei bostio ar 16/05/2024