Skip to main content

Cam nesaf cynllun pont droed Trefforest yn cynnwys gwaith yn yr afon

Castle Inn

Bydd trigolion yn gweld pontynau'n cael eu defnyddio yn yr afon ger pont droed Castle Inn dros yr wythnosau nesaf, wrth i'r contractwr gynnal cam nesaf y gwaith sydd wedi'i drefnu. Bydd y bont droed yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith.

Agorwyd y bont droed newydd rhwng Stryd yr Afon yn Nhrefforest a Heol Caerdydd yng Nglyn-taf ym mis Chwefror 2024, a bydd modd cwblhau'r gwaith sy'n weddill yn y cam adeiladu yn ddiogel tra bydd y bont ar agor. Mae'r bont newydd, sy'n strwythur pwysig lleol, wedi cymryd lle hen bont droed Castle Inn a oedd wedi'i dymchwel ar ôl difrod storm difrifol.

Pan gafodd y bont droed newydd ei hagor yn gynharach eleni, nododd y Cyngor y bydd angen cwblhau rhywfaint o waith a oedd yn weddill yn ystod yr haf eleni – yn enwedig gwaith yn yr afon nad oes modd ei gwblhau yn y gaeaf o ganlyniad i gyfyngiadau tymhorol.

O ddydd Llun 13 Mai, bydd contractwry prosiect,Knights Brown, yn dechrau ar y gwaith o osod cladin ar ategwaith gorllewinol y bont ac wal adain dde-orllewinol y bont. Bydd carfan y contractwr ar y safle yn defnyddio pontynau i gael mynediad i'r bont. Bydd y cam yma o waith yn para tua phedair wythnos, yn amodol ar dywydd braf.

Bydd y contractwr yn ysgrifennu at drigolion a busnesau lleol cyn bo hir er mwyn amlinellu'r gwaith yma. Nodwch y bydd angen goleuadau traffig dwyffordd ar Heol Caerdydd, ar y rhan o'r ffordd ger y bont droed, er mwyn gosod peiriant fydd yn codi'r pontynau i mewn i'r afon a chodi a gosod deunyddiau ac offer ar y pontynau.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bydd pont droed Castle Inn yn Nhrefforest yn parhau i fod ar agor i gerddwyr a beicwyr wrth i rywfaint o'r rhaglen waith sy'n weddill gael ei chynnal dros y mis nesaf. Bydd y gwaith yma o 13 Mai yn cynnwys gosod cladin ar ran o'r bont, wrth i'n contractwr gael mynediad i'r strwythur gan ddefnyddio pontynau yn yr afon.

“Mae'r Cyngor yn parhau i groesawu cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect mawr yma, gydag elfennau terfynol y gwaith yn cael eu cynnal yn rhan o raglen gwerth £3.61 miliwn ar gyfer atgyweiriadau Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2024/25 – a hynny ar ôl derbyn cyllid sylweddol yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol.

“Byddwn ni'n gweithio gyda'n contractwr i gwblhau'r gwaith ar y safle mor gyflym ac effeithlon â phosibl, gyda dyddiadau cwblhau'r gwaith yn amodol ar dywydd braf. Bydd angen goleuadau traffig dwyffordd ger y bont ar Heol Caerdydd er mwyn gosod a symud y pontynau, a chodi a gosod deunyddiau arnyn nhw. Diolch ymlaen llaw i ddefnyddwyr y ffordd a'r gymuned am eich cydweithrediad.”

Nodwch y bydd Dŵr Cymru yn cynnal gwaith sylweddol ar Heol Caerdydd yn hwyrach eleni, a bydd wyneb newydd yn cael ei osod ar y ffordd gerbydau yn dilyn hyn.

Wedi ei bostio ar 10/05/2024