Skip to main content

Buddsoddi mewn ardaloedd awyr agored bywiog mewn ysgol yng Nghwm Rhondda

YGG Ynyswen - Copy

Mae disgyblion ysgol gynradd yn Ynys-wen bellach yn gallu mwynhau cyfleuster dysgu a chwarae awyr agored gwych yn eu hysgol – yn dilyn buddsoddiad sylweddol gan y Cyngor. Bydd y gymuned ehangach hefyd yn elwa ohono.

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen wedi derbyn dosbarth a gofod dysgu awyr agored, ardal werdd, Ardal Gemau Aml-ddefnydd a thrac cerdded a rhedeg. Mae'r ardaloedd bywiog newydd wedi'u hadeiladu ar hen safle adeilad y babanod oedd wedi'i ddymchwel yn flaenorol.

Mae'r cyfleusterau modern wedi cael eu darparu gan ddefnyddio cyllid cyfalaf y Cyngor, gyda'r prosiect yn rhan o Raglen Gyfalaf Addysg y llynedd.

Mae Contractwr y Cyngor, South Wales Sports Grounds, wedi cwblhau camau olaf y gwaith yn ddiweddar, ac mae'r cyfleusterau awyr agored bellach yn cael eu mwynhau gan ddisgyblion a staff yr ysgol cyfrwng Cymraeg – yn ogystal â'r rheiny sy'n mynychu'r ddarpariaeth gofal plant lleol, Cylch Meithrin Nant Dyrys.

Mae bwriad i'r gymuned ehangach elwa o'r cyfleusterau newydd hefyd, gyda sawl sefydliad lleol yn cael manteisio arnyn nhw ar amseroedd wedi'u cytuno. Mae trefniadau yn cael eu cadarnhau ar hyn o bryd i hwyluso eu defnydd ar gyfer y gymuned.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Mae'r ardaloedd awyr agored newydd gwych yma yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen wedi'u hadeiladu diolch i gyllid cyfalaf y Cyngor – sy'n cynrychioli buddsoddiad gwerth oddeutu £170,000 ar gyfer yr ysgol, y Cylch Meithrin a'r gymuned ehangach.

"Cafodd y cyfleusterau yma eu darparu gan weithio'n agos gyda Chyngor yr Ysgol, ac maen nhw wedi trawsnewid safle hen adeilad ysgol y babanod yn ardaloedd llachar a lliwgar y mae modd i ddisgyblion eu mwynhau – boed hynny drwy gymryd rhan mewn chwaraeon, chwarae neu ddysgu yn yr awyr agored. Mae prosiectau o'r math yma ar gyfer ein hysgolion cyfrwng Cymraeg yn cefnogi deilliannau sydd wedi'u nodi yn ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

"Rwy'n falch bod y prosiect wedi'i gwblhau yn ddiweddar mewn da bryd ar gyfer tywydd braf y gwanwyn a'r haf. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â disgyblion a staff yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen yn fuan – i weld sut mae'r ardaloedd newydd yn cael eu mwynhau ac i agor y safle yn swyddogol."

Wedi ei bostio ar 20/05/2024