Skip to main content

Gwaith adeiladu pont droed ger Abercynon yn dechrau ar y safle

Feeder Pipe - Copy

Mae gwaith adeiladu er mwyn gosod Pont Droed newydd y Bibell Gludo, sydd wedi'i lleoli rhwng Abercynon a Mynwent y Crynwyr bellach yn mynd rhagddo. Does dim disgwyl i'r gwaith darfu ar gymunedau lleol.

Mae'r bont wedi'i lleoli ar ffin y fwrdeistref sirol rhwng Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, gan groesi Afon Taf rhwng Maes Alexandra a'r Dramffordd. Roedd y strwythur wedi'i ddifrodi yn sylweddol yn ystod Storm Dennis, ac mae bwrdd y bont a'r parapedau wedi'u tynnu oddi yno.

Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ym mis Ebrill 2024 i osod pont newydd, wedi'i dylunio i fod yn fwy llydan ac yn fwy cydnerth yn erbyn stormydd yn y dyfodol. Bydd y bont newydd yn 38 metr o hyd ac yn 2.2 metr o led, o'i chymharu â'r hen bont, oedd yn 1.5 metr o led. Bydd bwrdd y bont newydd yn cael ei adeiladu gyda dur yn hytrach na phren, yn yr un modd â'r bont wreiddiol, gyda gwaith cynnal a chadw yn cael ei gynnal ar yr ategweithiau a'r pileri.

Mae'r Cyngor wedi penodi Balfour Beatty yn gontractiwr i ddarparu'r cam adeiladu, a dechreuodd y gwaith ddydd Mercher, 15 Mai.

Bydd y gwaith cychwynnol yn cychwyn gwaith clirio coed a llystyfiant ar ochr ddeheuol yr afon er mwyn creu llwyfan dros dro oddi ar Y Dramffordd (Mynwent y Crynwyr) - i'w defnyddio ar gyfer storio peiriannau trwm a deunyddiau, cyfleusterau lles y safle, ac i osod craen fydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn codi rhannau'r bont newydd i'w lle. Bydd cynllun digolledu coed a llystyfiant sy'n cael ei golli yn cael ei gynnal wedi i'r cynllun ddod i ben.

Does dim disgwyl tarfu yn ystod cam adeiladu'r cynllun o ganlyniad i leoliad y bont ymhell o ardaloedd preswyl. Bydd Y Dramffordd yn parhau ar agor i gerddwyr a cherbydau, gyda system goruchwylio ar waith yn ystod oriau gwaith. Bydd y llwybr troed o Faes Alexandra (Abercynon) yn cael ei defnyddio er mwyn cael mynediad i adeiladu ategwaith y bont. Bydd y rhan fwyaf o'r llwybr yma'n parhau ar agor gyda'r rhan olaf, 70 metr o hyd yn cael ei gau er mwyn creu llwybr dros dro at y bont.

Bydd cerrig milltir yn y rhaglen waith yn cynnwys adeiladu ategwaith y bont ar ddwy ochr yr afon, atgyweirio'r pileri carreg yn yr afon, adeiladu'r bont oddi ar y safle a'i godi i'w le mewn rhannau, atgyweirio'r waliau presennol a gwella'r llwybrau troed sy'n arwain at y bont.

Bydd contractiwr y Cyngor yn anfon llythyr at y trigolion sy'n byw gerllaw safle'r gwaith er mwyn esbonio'r gwaith ymhellach, a bydd e'n darparu cylchlythyrau rheolaidd ar-lein a diweddariadau cynnydd drwy gydol y cynllun. Gan ddibynnu ar y tywydd, mae disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau erbyn dechrau 2025.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:   "Rwy'n falch bod gwaith adeiladu Pont Droed y Bibell Gludo am ddechrau yn fuan wedi derbyn caniatâd cynllunio gan Gynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ym mis Ebrill. Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn arwain darpariaeth y prosiect, i ailosod y cyswllt lleol dros yr afon rhwng Abercynon a Mynwent y Crynwyr.

"Mae'r bont newydd wedi'i dylunio i fod yn fwy cydnerth yn erbyn digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol - ystyriaeth allweddol yn ein hymdrechion parhaus i ailosod strwythurau gafodd eu difrodi mewn stormydd diweddar, yn ogystal a’n buddsoddiad ehangach i liniaru bygythiad newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth Llywodraeth Cymru yn yr ardal, gyda chynllun Pont Droed y Bibell Gludo yn un o blith sawl cynllun sydd wedi'u hariannu yn rhan o raglen atgyweirio difrod yn dilyn Storm Dennis gwerth £3.61 miliwn yn ystod 2024/25.

"Does dim disgwyl i'r cynllun darfu yn ystod cyfnod gwaith y cynllun am fod y bont wedi'i lleoli ymhell o eiddo preswyl. Does dim angen mesurau rheoli traffig sylweddol, a bydd y rhan fwyaf o lwybrau troed lleol yn parhau ar agor. Bydd y Cyngor yn cydweithio'n agos gyda'u contractiwr wrth wneud cynnydd da dros y misoedd sydd i ddod, gan weithio tuag at gwblhau'r gwaith erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf."

Wedi ei bostio ar 21/05/2024