Skip to main content

Y Diweddaraf: Cau maes parcio ym Mhontypridd ar gyfer gwaith glanhau a chynnal a chadw

Berw Road car park - Copy

Y DIWEDDARAF: 23/05/24 – Nodwch y bydd y maes parcio ar gau am gyfnod estynedig er mwyn cynnal rhagor o waith atgyweirio concrit a marcio llinellau. Bydd yn ailagor ddydd Llun 3 Mehefin. Mae'r erthygl isod wedi cael ei diweddaru i gynnwys y dyddiad newydd.

 

Dyma roi gwybod i drigolion ac ymwelwyr â chanol tref Pontypridd y bydd maes parcio Heol Berw ar gau o 20 Mai. Bydd angen cau'r cyfleuster er mwyn cynnal gwaith glanhau trylwyr a gwaith atgyweirio hanfodol.

Bydd y maes parcio cyhoeddus, ger Gorsaf yr Heddlu Pontypridd, ar gau o ddydd Llun 20 Mai ac mae disgwyl iddo ailagor o ddydd Llun 3 Mehefin (dyddiad newydd).

Bydd holl ardaloedd y cyfleuster yn cael eu glanhau'n drylwyr, gan gynnwys y llawr a'r ddau dwll grisiau. Bydd angen cau'r maes parcio er mwyn cynnal agweddau gwahanol ar y gwaith, fydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o waith cynnal a chadw ychwanegol. Bydd hysbysiadau safle i'w gweld yn y maes parcio ymlaen llaw.

Mae meysydd parcio eraill ar gael o amgylch canol tref Pontypridd. Mae'r rhain yn cynnwys pum maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor - Maes Parcio Heol y Weithfa Nwy (cyfnod byr, ar agor 24 awr o'r dydd), Maes Parcio Iard Nwyddau (cyfnod hir, ar agor 24 awr o'r dydd), Maes Parcio Dôl-y-felin (cyfnod hir, ar agor 24 awr o'r dydd), Maes Parcio Stryd y Santes Catrin (cyfnod hir, ar agor 7am-7pm) a Maes Parcio Heol Sardis (cyfnod hir, ar agor 7am-7pm).

Hoffen ni ddiolch i drigolion ac ymwelwyr â chanol tref Pontypridd ymlaen llaw am eich cydweithrediad wrth i'r gwaith glanhau hanfodol yma gael ei gynnal.

Wedi ei bostio ar 13/05/2024