Skip to main content

Trefniadau traffig ar gyfer gwasanaeth wrth Senotaff Aberdâr ddydd Sul

Aberdare Cenotaph 2024 - Copy

Fe fydd ffyrdd ar gau yng nghanol tref Aberdar fore Sul ar gyfer gwasanaeth coffa byr wrth y Senotaff yn Sgwâr Fictoria.

Bydd y gwasanaeth yn para tua 10 munud o 11am ddydd Sul, 9 Mehefin, ac mae wedi ei drefnu gan Gangen Aberdâr o'r Cymry Brenhinol i nodi 80 mlynedd ers glaniadau D-day.

Heddlu De Cymru fydd yn rheoli cau'r ffyrdd a fydd yr un fath â'r trefniadau blynyddol ar gyfer Sul y Cofio.

Bydd y ffyrdd i'w cau yn cynnwys Stryd y Canon a Sgwâr Fictoria yn eu cyfanrwydd – ac mae'r rhain wedi’u hamlinellu ar y map ganlyn.

Bydd y Stryd Fawr hefyd ar gau (lôn tua'r de yn unig) rhwng Stryd Seymour a Stryd y Canon. Bydd mynediad ar gael i Stryd Seymour o'r Stryd Fawr ar gyfer preswylwyr sy'n byw gerllaw.

Ar ochr arall canol y dref, bydd Stryd Caerdydd ar gau rhwng ei chyffyrdd â Sgwâr Fictoria a Stryd y Groes.

Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys.

Mae llwybr arall i fodurwyr: I'r gogledd o'r ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Cylchfan Gadlys, yr A4233 a'r A4059 Ffordd Osgoi Aberdâr.

I'r de o'r ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd cylchfan Tinney's, Stryd Caerdydd, Stryd y Groes, Stryd Biwt, Sgwâr Fictoria a'r Stryd Fawr.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 07/06/24