Skip to main content

Arddangosfa ryngweithiol newydd yn dod â hanes yn fyw yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

RHP Black Gold Exhibition-67re-sized2

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn falch iawn o gyhoeddi bod arddangosfa ryngweithiol newydd sbon, am ddim wedi’i hagor!

Wedi’i hariannu’n rhannol gan Is-adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru, mae’r arddangosfa newydd yn cynnwys lluniau anhygoel o’r archifau o’r cyfnod roedd glo o Gwm Rhondda yn cynhyrchu ynni i'r byd. Mae dros 140 o arteffactau mwyngloddio a hanes Cymru yn cael eu harddangos sy’n golygu mai hon yw’r arddangosfa fwyaf erioed i’w chynnal yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Wedi’i chyfuno â’r ffilmiau anhygoel, sgriniau cyffwrdd, cwisiau, posau ac arteffactau digidol, mae modd dweud mai'r arddangosfa yw'r un diffiniol ar hanes cymoedd De Cymru. 

Mae sgriniau cyffwrdd digidol yn cyd-fynd â'r arteffactau sy'n cael eu harddangos sy'n adrodd stori'r gwrthrychau. Mae modd i ymwelwyr bori trwy bynciau fel Rhuthr am Lo Cwm Rhondda a rôl glowyr yr ardal yn Rhyfel Cartref Sbaen, a gweld y pynciau hyn yn dod yn fyw ar y sgriniau mawr gyda chlipiau newyddion hanesyddol. Mae llinellau amser, mapiau, a hyd yn oed mwy o arteffactau digidol i'w harchwilio.

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar safle Pwll Glo Lewis Merthyr yn Nhrehafod ger Pontypridd, ac mae’r arddangosfa’n dod â’r hen bwll glo yn fyw wrth i ymwelwyr weld ei stori’n datblygu ar y sgrin.

Mae'r arddangosfa newydd sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau yn ddelfrydol ar gyfer ymweliadau ysgolion - mae hyd yn oed bwrdd rhyngweithiol lle gall ymwelwyr a grwpiau ysgol gymryd rhan mewn cwisiau a phosau.

Mae’r ystod o bynciau a gynigir yn ymestyn o 1809 hyd at gau Glofa’r Tŵr - y pwll glo dwfn olaf yn Ne Cymru yn 2008, sy’n golygu mai dyma’r arddangosfa ryngweithiol fwyaf cynhwysfawr a hynod ddiddorol ar fywyd a hanes glofaol De Cymru.

Gall ymwelwyr sgrolio drwy'r sgriniau yn eu hamser eu hunain ac mae'r holl gynnwys ar gael yn y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Tsieinëeg. Mae'r sgrin fwyaf hefyd yn cynnwys elfen Iaith Arwyddion Prydain.

Mae croeso i deuluoedd, ysgolion a grwpiau ymweld – cadwch le ar y daith danddaearol unigryw dan arweiniad cyn-lowyr am ymweliad hynod ddifyr!

Yn ogystal â'r arddangosfa am ddim, gall grwpiau ysgolion hefyd gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol gan gynnwys diwrnod golchi Mrs Thomas a llawer mwy. I gael gwybodaeth am ein cynnig i ysgolion, ffoniwch 01443 682036.

Mae'r arddangosfa ar agor nawr ac am ddim i'w gweld.

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar agor 10.30am tan 4.30pm dydd Mawrth i ddydd Sadwrn.

I gael rhagor o wybodaeth am arddangosfeydd, teithiau tanddaearol ac achlysuron yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, ewch i www.rhonddaheritagepark.com a dilynwch @rhonddaheritage ar y cyfryngau cymdeithasol.

Wedi ei bostio ar 10/06/24