Skip to main content

Trefniadau traffig a bysiau pwysig ar gyfer achlysur Cerdded y Ffin

Temp bus arrangements thumbnail WELSH 2

Dylai trigolion fod yn ymwybodol o'r trefniadau dros dro ar gyfer traffig a bysiauyn ystod achlysur Cerdded y Ffin yn Llantrisant ddydd Sadwrn yma.

Mae trefnydd yr achlysur, Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant, angen cau dwy ffordd ar wahân ddydd Sadwrn 8 Mehefin. Mae'r ffyrdd wedi'u hamlinellu ar y map canlynol

Mae'r cyfnod cau cyntaf (8am tan 6pm) yn cynnwys Stryd yr Alarch, Stryd Siôr, rhan o'r Stryd Fawr, Heol-y-Sarn a Heol y Comin (sy'n arwain at Heol Castellau a ffordd fynediad Parc Busnes Llantrisant).

Bydd mynediad i Ganol Tref Llantrisant yn cael ei gynnal ar hyd Heol Las a Heol-y-Beiliau drwy gydol y cyfnod cau yma.  

Bydd yr ail gyfnod cau (1pm tan 3pm) yn cynnwys y Stryd Fawr (o dde-ddwyrain Stryd Siôr at Heol Cross Inn), yn ogystal â Heol Cross Inn, yr Heol Fawr a Ffordd Llantrisant.

Bydd Heddlu De Cymru yn rheoli traffig ar hyd y llwybrau yma yn ôl yr angen pan fydd y ffyrdd ar gau.

Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys ac at eiddo yn ystod y ddau gyfnod pan fydd y ffyrdd ar gau. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r llwybrau i gerddwyr.

Yn ystod yr ail gyfnod pan fydd y ffyrdd ar gau (1pm tan 3pm), bydd y trefniadau bws dros dro canlynol ar waith.

Bydd Gwasanaeth Bws 100 Edwards Coaches yn mynd ar hyd Ffordd Osgoi'r A473 rhwng Cross Inn a Gwaunmeisgyn. Ni fydd yn gallu gwasanaethu Hen Lantrisant a Brynteg a bydd yn casglu teithwyr o ochr arall y ffordd ar Sgwâr Beddau.

Ni fydd modd i Wasanaeth Bws 124 Stagecoach wasanaethu Heol Cross Inn, Heol Talbot a Chanolfan Hamdden Llantrisant, ond bydd yn gwasanaethu Cross Inn.

Bydd Gwasanaeth Bws 404 Stagecoach yn mynd ar hyd Ffordd Osgoi'r A473 rhwng Cross Inn a Gwaunmeisgyn. Ni fydd modd iddo wasanaethu Brynteg a Hen Lantrisant.

Nodwch, bydd y trefniadau bws dros dro yma ar waith rhwng 1pm a 3pm ddydd Sadwrn 8 Mehefin yn unig - bydd y gwasanaethau arferol yn cael eu cynnal ac eithrio'r cyfnod yma.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 06/06/24