Skip to main content

Ysgol Y Pant yn agor ei hadeilad 'Rose Barnes' newydd

Rose Barnes

Ddydd Llun 15 Gorffennaf, agorwyd bloc newydd yn Ysgol Y Pant - adeilad 'Rose Barnes'. Mae'r adeilad newydd, sydd wedi'i ariannu yn gyfan gwbl gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, wedi'i enwi i gydnabod cyn-lywodraethwr hirsefydlog yr ysgol, Mrs Rose Barnes, sydd wedi ymddeol yn ddiweddar. Daeth Mrs Barnes i'r agoriad gyda'i theulu i dderbyn diolch arbennig am ei gwasanaeth hir, cael cipolwg cyntaf ar yr adeilad a enwyd er anrhydedd iddi, a chroesawu'r disgyblion i'r adeilad newydd.

Diben yr adeilad newydd yw cynyddu capasiti'r ysgol yn unol â'r cynnydd yn y galw am ddisgyblion oherwydd y datblygiadau tai ar raddfa fawr yn yr ardal. Cyn iddi hi ymddeol yn ddiweddar, bu Mrs Rose Barnes yn Llywodraethwr yn Y Pant am 37 mlynedd ac mae'n parhau i fod yn rhan weithgar o gymuned yr ysgol. Mae cenedlaethau o'i phlant a'i hwyrion wedi bod drwy'r ysgol, gyda'i hŵyr ieuengaf, Max, bellach ym Mlwyddyn 12.

Meddai Mrs Rose Barnes, Cyn Lywodraethwr Y Pant : "Roeddwn wrth fy modd â phob munud o'r 37 mlynedd a dreuliais yn Llywodraethwr Y Pant, dros 12 ohonynt yn Gadeirydd. Roedd yn fraint cael gweithio gyda phenaethiaid mor anhygoel (5 yn ystod fy mlynyddoedd), staff addysgu, cyd-lywodraethwyr, a ffrindiau Y Pant. Rwy'n teimlo'n falch fy mod wedi helpu i siapio'r ysgol yn ganolfan ragoriaeth, lle mae fy mhlant a'm hwyrion wedi ffynnu. Mae cael adeilad wedi ei enwi ar fy ôl i yn anrhydedd enfawr ac roedd bod yn westai anrhydeddus yn y seremoni agoriadol ddydd Llun (15 Gorffennaf) yn wych."

Mae'r adeilad wedi'i enwi er anrhydedd iddi, gyda dyfyniad gan Mrs Barnes wedi'i nodi ar waliau'r ysgol "Don't just dream about success, work hard to achieve it". Mae hyn yn annog y plant i weithio'n galed a gwireddu eu huchelgeisiau.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: "Mae'n anrhydedd gweld y cyfleuster newydd hwn yn cael ei enwi ar ôl aelod mor bwysig o gymuned Y Pant. Bydd ehangiad newydd sbon Y Pant, a ariennir gan y Cyngor, yn darparu gofod y mae mawr ei angen ar gyfer ysgol y mae galw mawr amdani.

“Rydym yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn ysgolion ac addysg ar draws Rhondda Cynon Taf, gyda buddsoddiad parhaus o bron i £160 miliwn mewn cyfleusterau addysg, gan gynnwys cyfraniad sylweddol gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.”

Meddai Bev Cheetham, Pennaeth Y Pant: "Mae Rose yn fam, yn fam-gu a ffrind ymroddgar i nifer. A hithau’n Gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr ac yn Llywodraethwr, gallech chi fod yn sicr y byddai Rose yn darparu'r cydbwysedd perffaith o her a chefnogaeth - gyda'r gallu i adnabod cymeriadau'n dda, roedd hi bob amser yn gwybod beth i'w ddweud a phryd i'w ddweud - roedd ei doethineb yn glir mewn llawer o gyfarfodydd. Un gair gan Rose ac roeddech chi'n gwybod beth oedd angen ei wneud. Roedd ei hymdeimlad o falchder yn yr ysgol yn angerddol ac roedd ei gallu i gofio’r nifer fawr iawn o staff (a'u teuluoedd) a benododd hi yn anhygoel.

"Mae Rose wedi bod yn eiriolwr dros ein disgyblion dros nifer o flynyddoedd - gan ymdrechu'n gyson i sicrhau ein bod ni’n dal ati i wneud ein gorau glas a bod ein henw da yn parhau yn y gymuned leol ac yn ehangach. Pan ddywedodd Cyngor RhCT wrthon ni ein bod ni’n cael bloc newydd, roedd yn ymddangos yn deyrnged addas i'w enwi ar ôl Rose - menyw a roddodd flynyddoedd lawer yn ddi-dâl i feithrin ein cymuned ddysgu i gyrraedd ein sefyllfa bresennol. Os oes gan bob un o'n disgyblion yr un gostyngeiddrwydd, haelioni a dycnwch â Rose, byddwn yn sicr wedi meithrin unigolion rhagorol. Menyw ddiymhongar, dawel, gyfeillgar, sy’n benderfynol o sicrhau'r addysg orau i bobl ifanc yn ei chymuned leol.”

Wedi ei bostio ar 26/07/2024