Skip to main content

Tocynnau bws â chymhorthdal yr haf yma gan gynnwys cyfnod yr Eisteddfod

£1 bus travel CYM

Bydd teithiau bws am brisiau gostyngol yn cael eu cynnig unwaith eto yn Rhondda Cynon Taf yn ystod gwyliau haf yr ysgol 2024 (22 Gorffennaf tan 1 Medi). Bydd uchafswm o £1 am docyn un ffordd yn berthnasol ar gyfer pob taith sy’n dechrau ac yn gorffen yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r Cyngor yn falch o gyhoeddi, am y pedwerydd cyfnod ers 2023, y bydd ffi uchaf o £1 yn berthnasol ar draws yr holl weithredwyr, a hynny heb unrhyw gyfyngiadau amser – felly bydd y teithiau bws â chymhorthdal ar gael o’r gwasanaeth cyntaf i’r gwasanaeth olaf bob dydd. Cafodd y cynnig yma ei roi ar waith yn flaenorol yn ystod gwyliau haf 2023, mis Rhagfyr 2023, a rhwng 12 a 18 Chwefror yn ystod 2024.

Nod y mesur yma yw helpu i leihau rhwystrau economaidd sydd efallai'n rhwystro pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’n parhau i gael ei ddarparu gan y Cyngor a gweithredwyr bysiau gyda chyllid wedi’i sicrhau o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae cyhoeddiad heddiw wedi cadarnhau bydd Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd yn cael ei ail-gyflwyno ledled Rhondda Cynon Taf yn ystod gwyliau haf yr ysgol – o ddydd Llun, 22 Gorffennaf tan ddydd Sul, 1 Medi 2024. Mae hyn yn cynnwys cyfnod Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sy’n cael ei chynnal ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf, rhwng 3 a 10 Awst.

Bydd y cynnig yr un fath â'r hyn a roddwyd ar waith yn flaenorol, gan gwmpasu'r holl wasanaethau bws sydd wedi'u trefnu, sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffiniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Rhaid i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach sganio eu cerdyn yn ôl yr arfer.

Ni fydd pob taith sy'n cychwyn neu'n gorffen y tu allan i Rondda Cynon Taf yn cael ei chynnwys yn y cynnig yma, a bydd defnyddwyr bysiau yn gorfod talu'r ffi lawn arferol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rwy'n falch iawn bod modd i ni unwaith yn rhagor gyflwyno'r cynllun uchafswm o £1 am docyn bws ar gyfer pob taith sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf – a fydd ar waith yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Rydyn ni wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn ar y tri achlysur blaenorol rydyn ni wedi cynnig y cymhorthdal yma, tra hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n dal y bws ar gyfer teithiau lleol.

“Bydd yr arlwy sydd i ddod hefyd yn cyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sy’n cael ei chynnal ym Mhontypridd yn ystod mis Awst – gan helpu unigolion a theuluoedd lleol i gael mynediad at yr achlysur cenedlaethol yma gyda thrafnidiaeth gyhoeddus ratach.

“Mae llawer o fanteision i annog rhagor o bobl i ddal y bws ar gyfer eu teithiau bob dydd, fel dewis arall yn lle gyrru – gan ddiogelu’r amgylchedd, lleihau tagfeydd traffig ar ein ffyrdd, a lleihau amseroedd teithio. Bydd y cyfnodau yma o deithio rhatach yn mynd i’r afael â rhwystrau economaidd a allai atal pobl rhag defnyddio’r bws, tra hefyd yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r bws yn y dyfodol.

“Mae’r cynnig wedi bod yn bosibl ar ôl i’r Cyngor sicrhau cyllid pwysig gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer cynlluniau sy’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Cyfanswm y cyllid y llynedd oedd £1.1 miliwn, tra bod £1.2 miliwn ychwanegol wedi'i sicrhau ar gyfer 2024/25. Bydd hyn yn ein galluogi ni i edrych ar gyfleoedd i gyflwyno mesurau pellach drwy gydol gweddill y flwyddyn ariannol.”

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan Lywodraeth y DU, wedi'i dyrannu i Awdurdodau Lleol i helpu i gyflwyno mentrau a fydd yn lleihau costau byw i drigolion. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fesurau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.

Wedi ei bostio ar 09/07/2024