Skip to main content

Ailddatblygu tir diffaith - Stryd Hannah, Porth

Hannah Street 2

Mae'r Cyngor wrthi’n bwrw ymlaen â chynlluniau i ailddatblygu'r tir diffaith ar Stryd Hannah, Porth (cyferbyn â'r Neuadd Bingo) gyda chynnig i droi'r safle’n faes parcio arhosiad byr y mae galw mawr amdano.

Mae'r safle sydd wedi'i leoli yn 37 Stryd Hannah yn ddarn o dir a gafodd ei adael yn wag wedi i dân ddinistrio'r eiddo nifer o flynyddoedd yn ôl.

Daeth cyfle i'r amlwg i Gyngor RhCT ddefnyddio'r ardal ddiffaith yma a’i datblygu’n fan gwyrdd mawr ei angen neu faes parcio ychwanegol ar gyfer canol y dref.

Yn 2022, prynodd y Cyngor y tir gyda chymorth cyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Adfywio a Phrosiectau Strategol RhCT wedi gweithio'n agos ers hynny i lunio cynnig ailddatblygu ar gyfer yr ardal.

Mae'r cynnig a ddewiswyd ar gyfer y cynllun yn defnyddio'r ffin bresennol i greu 4 lle parcio ffurfiol, lleiniau glas ychwanegol ac ardaloedd tirwedd er budd trigolion lleol, siopwyr ac ymwelwyr.

Bydd yr un cyfyngiadau parcio sydd ar waith ar hyn o bryd ym Maes Parcio Stryd Hannah yn berthnasol i’r 4 lle ychwanegol.

Mae estyniad y maes parcio yn destun ymgynghoriad cyfreithiol 21 diwrnod cyn y gall y gwaith fynd rhagddo, a fydd yn dechrau ddydd Llun 15 Gorffennaf 2024. Mae disgwyl i waith adeiladu'r safle ddechrau ddiwedd 2024.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:

"Mae'n braf unwaith eto gweld Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dangos ei ddull rhagweithiol o dargedu cynigion buddsoddi i wella mynediad i gyfleusterau parcio yng nghanol ein trefi poblogaidd.

"Gan ddefnyddio cyllid grant gan Lywodraeth Cymru, bydd y prosiect yma’n trawsnewid y tir nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac yn darparu lleoedd parcio ychwanegol amhrisiadwy a man gwyrdd i drigolion ac ymwelwyr â'r dref.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r prosiect yma’n datblygu i wella canol tref annwyl Porth".

Wedi ei bostio ar 16/07/24