Skip to main content

Adfywio'r hen adeilad Ardrethi yn Aberdâr

Rates Building

Mae'r hen adeilad Ardrethi yn Aberdâr yn cael ei ailddatblygu'n sylweddol er mwyn darparu gofod preswyl a masnachol newydd yn yr eiddo. Bydd yn darparu cartrefi, y mae mawr eu hangen, a chyfleoedd cyflogaeth lleol, gan gyfrannu at adfywiad economaidd cyffredinol y dref.

Mae'r hen adeilad Ardrethi o bwysigrwydd hanesyddol gan ei fod yn Adeilad Rhestredig Gradd II, a gafodd ei adeiladu o ddechrau i ganol y 19eg ganrif. Fe'i prynwyd gan Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr yng nghanol y 1960au a'i drawsnewid i'w ddefnyddio fel swyddfeydd y Cyngor a chasglu ardrethi. Cafodd yr adeilad ei wagio tua 1990 ac mae wedi aros yn wag ers hynny, gan fynd i ddwylo perchnogion preifat hefyd. Yn fwy diweddar, mae'r prif adeilad wedi dadfeilio ac o ganlyniad daeth yn anhyfyw i'w drosi a'i wella heb gefnogaeth y Cyngor.

Fe brynodd cwmni lleol yr adeilad yn ystod haf 2022 a daeth â charfan brosiect ynghyd i ymgymryd â'r gwaith o ailddatblygu'r eiddo. Nod y prosiect yw ailddatblygu ac ymestyn yr adeilad, gan gynnwys 10 uned breswyl newydd, gyda gofod masnachol newydd ar y llawr gwaelod. Bydd yn darparu swyddi lleol mewn gofod masnachol newydd, cartrefi o safon i bobl leol, ac yn cefnogi adfywiad economaidd cyffredinol y dref. Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan gyllid cynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, ynghyd â buddsoddiad preifat.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Bydd ailddatblygu'r hen adeilad Ardrethi yn dod ag adeilad tirnod hanesyddol arall yn ôl i ddefnydd buddiol yn Aberdâr. Bydd yn braf gweld yr adeilad yn darparu cartrefi sydd mawr eu hangen, gan gadw cymeriad hanesyddol yr adeilad, gan hefyd gynnal gofod masnachol.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r garfan sy'n gweithio ar y prosiect, ac rydyn ni'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cynllun Trawsnewid Trefi i helpu i wneud hyn yn bosibl."

Mae disgwyl i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn diwedd 2024.

Wedi ei bostio ar 19/07/2024