Skip to main content

Gwaith sylweddol i adfer llethr y graig uwchben Ffordd Mynydd y Rhigos

Rhigos Mountain Road 1 - Copy

Bydd yr A4061 Ffordd Mynydd y Rhigos yn cau o 22 Gorffennaf hyd ddiwedd Hydref 2024 er mwyn mynd ati i atgyweirio difrod ar ochr y mynydd a gafodd ei achosi gan dân mawr, a hynny mewn modd diogel.

Rhaid cau'r ffordd yn o ganlyniad i natur cymhleth y gwaith ar ardal eang o wyneb creigiog y mynydd, y defnydd o beiriannau trwm a mynediad arbenigol i gyfarpar er mwyn cyrraedd uchderau'r wyneb creigiog, yn ogystal â'r perygl y bydd rwbel yn cwympo i'r ffordd.

Fe wnaeth y tân yn haf 2022 ddifrodi rhan sylweddol o ochr y mynydd, ynghyd â rhwydi gwifren, rhwydi plastig a ffensys. Roedd y gwaith brys yn dilyn y digwyddiad wedi golygu bod modd i’r ffordd agor gyda goleuadau traffig dros dro - gan atgyfeirio cerbydau i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf peryglus o rwydi ar y creigiau.

Gwnaed atgyweiriadau brys ychwanegol i'r rhwydi ar y creigiau yn hydref 2023 ar ôl archwiliad manwl o'r creigiau toredig a'r llethrau uwchlaw. Cafodd y Cyngor wared ar lwyth o greigiau mawr a oedd wedi cwympo oddi ar y wyneb creigiog.

Ers hynny, mae cynllun er mwyn adfer y difrod wedi cael ei lunio. Cafodd data arolwg ei ddefnyddio i greu model o'r llethrau, ac efelychiad o gwympiadau creigiau posibl i ddylunio datrysiad sy'n lliniaru'r risg i ddefnyddiwr y ffordd. Mae'r dyluniad terfynol yn ymgorffori cyfuniad o ddatrysiadau geodechnegol arbenigol, gan gynnwys system wanhau, rhwystr ar gyfer creigiau sy'n cwympo, a systemau rhwydo creigiau gweithredol a goddefol.

Mae'r Cyngor yn cyhoeddi heddiw y bydd y prif gynllun atgyweirio yn dechrau ddydd Llun 22 Gorffennaf, ac mae disgwyl iddo ddod i ben erbyn diwedd mis Hydref 2024. Bydd y ffordd ar gau'n llawn trwy gydol y cyfnod yma.

Mae'r ardal waith wedi'i leoli ym mhen deheuol Ffordd Mynydd y Rhigos ar yr A4061, am bellter o tua 375 metr. Mae cwmni Alun Griffiths Ltd (Contractwyr) wedi'i benodi i gyflawni'r cynllun hwn ar ran y Cyngor.

Rhaid cau'r ffordd o ganlyniad i natur cymhleth y gwaith ac i liniaru'r peryglon i ddefnyddwyr y ffordd yn ystod y gwaith. Mae'r ffordd o led gyfyngedig ac mae angen offer mynediad arbenigol a pheiriannau trwm ar y contractwr. Mae rhai o'r blociau a fydd yn cael eu hangori yn pwyso hyd at 50 tunnell.

Nid oes modd cynnal mynediad ar gyfer cerbydau argyfwng, ac mae'r Cyngor wedi ymgynghori gyda'r gwasanaethau perthnasol sydd wedi rhoi mesuriadau lliniarol ar waith.

Bydd yr hawl tramwy cyhoeddus o dan yr A4061 Ffordd Mynydd y Rhigos yn parhau i fod ar agor i gerddwyr profiadol, ond nid yw'r llwybr yma'n addas i feicwyr.

Meddai Cyfarwyddwr Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf,: "Er y bydd y cynllun yma’n tarfu rhywfaint ar bobl, mae'r gwaith sydd wedi'i gynllunio yn ceisio lleihau hyn a lleihau'r perygl y bydd angen i’r ffordd gau’n achlysurol neu am ragor o amser yn y pen draw. Mae'r gwaith peirianneg cymhleth yma'n angenrheidiol i sicrhau diogelwch y llwybr pwysig yma, ymateb i ddifrod a gafodd ei achosi gan dân yn 2022, ac yn bwysicaf oll, ceisio diogelu uniondeb strwythurol ehangach y ffordd yma ar gyfer y dyfodol.

"Nid oes modd gwneud y gwaith dros nos, yn gyfan gwbl nac yn rhannol, o ganlyniad i natur cymhleth y gwaith i adfer y llethr creigiog. Rhaid cyflawni’r gwaith yn ystod oriau dydd i ddarparu amodau diogel ar gyfer y gweithlu i weithredu peirianneg drom a chael mynediad â rhaff i'r wyneb creigiog eang a rhwydi ar y creigiau.

"Mae'r gwaith wedi cael ei drefnu ar gyfer y penwythnosau ac yn ystod gwyliau'r haf er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar drigolion.

"Mae'r Cyngor yn effro i'r anhawster sylweddol bydd cau'r ffordd yn ei achosi i drigolion Cwm Rhondda a Chwm Cynon, ond o ganlyniad i'r beirianneg sifil sydd ei angen, does dim opsiynau amgen hyfyw eraill ar gael er mwyn cwblhau'r gwaith angenrheidiol yma."

Ymgynghorwyd â charfan Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol y Cyngor ar gyfer y cyfnod gwaith y tu hwnt i fis Medi 2024, ac mae trefniadau amgen yn cael eu rhoi ar waith gydag ysgolion lleol.

Nodwch, mae disgwyl i'r cynllun dod i ben erbyn diwedd mis Hydref 2024. Mae'r hysbysiad cau'r ffordd yn caniatáu cyfnod hirach o amser ar gyfer y gwaith (hyd at fis Rhagfyr 2024) rhag ofn y bydd unrhyw oedi, sy'n arfer cyffredin.

Wedi i'r cynllun dod i ben, bydd y goleuadau traffig dros dro sydd wedi bod ar Ffordd Mynydd y Rhigos ers haf 2022 yn cael eu tynnu oddi ar y ffordd.

Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwr er mwyn sicrhau cynnydd mor gyflym ac effeithlon â phosibl, a bydd trigolion yn derbyn diweddariadau ynglŷn â cherrig milltir allweddol. Diolch i gymunedau lleol a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 10/07/24