Skip to main content

Buddsoddiad ychwanegol ym mlaenoriaethau'r Cyngor ochr yn ochr â'r rhaglen gyfalaf

Investment priorities

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar fanylion rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer y tair blynedd nesaf – ynghyd â buddsoddiad untro wedi'i dargedu gwerth £19.29 miliwn ar gyfer meysydd blaenoriaeth 2024/25, gan gynnwys priffyrdd, ffyrdd heb eu mabwysiadu, strwythurau, parciau, mannau gwyrdd, lliniaru llifogydd ac ardaloedd chwarae.

Mae'r cyllid yn cynnwys dyraniadau ar gyfer Fferm Solar Coed-elái, atgyweiriadau i rwydi creigiau ar Ffordd Mynydd y Rhigos, ac uwchraddio'r cae chwaraeon astroturf yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen i fod yn arwyneb 'pob tywydd' at ddefnydd yr ysgol a'r gymuned.

Ddydd Mercher, 21 Chwefror, bu'r Cabinet yn trafod adroddiad a oedd yn manylu ar raglen gyfalaf tair blynedd arfaethedig, sy'n cynrychioli buddsoddiad gwerth £165.63 miliwn ar draws gwasanaethau'r Cyngor rhwng 2024/25 a 2026/27. Mae aelodau bellach wedi argymell bod y Cyngor llawn yn cytuno ar y rhaglen yn gynnar ym mis Mawrth 2024.

Mae hyn yn cynnwys rhaglen gyfalaf graidd wedi'i hariannu'n llawn gwerth £42.54 miliwn dros y tair blynedd nesaf, yn ogystal â chyllid grant allanol, a'r defnydd o gronfeydd wrth gefn penodol y Cyngor sydd eisoes wedi'u dyrannu. Mae rhagor o fanylion am sut y bydd meysydd blaenoriaeth y Cyngor yn cael eu cefnogi wedi'u cynnwys yn adroddiad i'r Cabinet ddydd Mercher.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi cyfle buddsoddi untro pellach ar gyfer 2024/25 – gan ddefnyddio cyllid a gafodd ei neilltuo ar gyfer Buddsoddi ac Isadeiledd, cynnal a chadw a gwella, a phrosiectau Buddsoddi i Arbed, ac ailddyrannu adnoddau cyfalaf. Mae'r Cabinet wedi cytuno y bydd cyllid gwerth £19.29 miliwn yn cael ei ddefnyddio yn y meysydd blaenoriaeth canlynol y flwyddyn nesaf:

  • Cynnal y priffyrdd, £5.05 miliwn
  • Ffyrdd heb eu mabwysiadu, £200,000 
  • Strwythurau priffyrdd, £1 miliwn
  • Rhwydi creigiau ar Ffordd Mynydd y Rhigos, £1.4 miliwn
  • Lliniaru llifogydd, £1 miliwn
  • Biniau Gofal y Strydoedd, £25,000
  • Strwythurau Parciau, £250,000
  • Parciau a Mannau Gwyrdd, £1.395 miliwn
  • Buddsoddiad mewn Parciau Gwledig, £305,000
  • Mannau Chwarae, £350,000
  • Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGAs), £225,000
  • Fferm Ynni Solar Coed-elái, £7.388 miliwn
  • Uwchraddio astroturf y Ddraenen Wen, £350,000
  • Offer ffitrwydd hamdden, £350,000

Meddai'rCynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: "Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn gosod Rhaglen Gyfalaf i gynllunio prosiectau buddsoddi ac isadeiledd. Yn rhan o'r broses yma, mae swyddogion wedi nodi buddsoddiad untro ychwanegol gwerth bron i £20 miliwn i gefnogi meysydd blaenoriaeth yn 2024/25. Mae'n dod â chyfanswm ein buddsoddiad o'r math yma, y tu hwnt i'n rhaglen gyfalaf flynyddol, i fwy na £181 miliwn ers 2015.

"Bydd yr adnoddau ychwanegol yma yn dyrannu gwerth £5 miliwn i'n rhaglen cynnal a chadw priffyrdd, sydd â hanes da o ran lleihau'r canran o ffyrdd sydd angen eu hatgyweirio. Bydd ein rhaglen Ffyrdd heb eu Mabwysiadu yn derbyn £200,000 i barhau i wella a mabwysiadu ffyrdd preifat nad ydyn nhw wedi'u cynnal a'u cadw i safon briodol. Bydd £1 miliwn ychwanegol hefyd yn cael ei ddyrannu i'n rhaglen atgyweirio strwythurau, gyda'r Cyngor yn gyfrifol am fwy na 1,500 o waliau, pontydd a chwlfertau sy'n cynnal ein rhwydwaith ffyrdd.

"Bydd ein gwaith cynnal a chadw a buddsoddi mewn parciau a mannau gwyrdd, sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan ein cymunedau, yn derbyn mwy na £1.3 miliwn - ynghyd â £305,000 ar gyfer ein parciau gwledig, sy'n boblogaidd gyda thrigolion ac ymwelwyr. Bydd ein buddsoddiad mewn chwarae a hamdden awyr agored hefyd yn derbyn £350,000 ychwanegol ar gyfer mannau chwarae a £225,000 ar gyfer Ardal Gemau Aml-ddefnydd, tra bod £350,000 wedi'i glustnodi ar gyfer offer ffitrwydd hamdden.

"Yn rhan o'r pecyn ariannu, bydd sawl prosiect cyffrous a enwir hefyd yn derbyn cyllid ar gyfer eu datblygiad. Bydd y maes chwarae astroturf presennol ar dir Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen yn cael ei uwchraddio i arwyneb 'pob tywydd' gyda £350,000 o gyllid. Dyma gyfleuster sy'n cael ei ddefnyddio'n aml ar draws nifer o chwaraeon, a bydd yn parhau i fod ar gael at ddefnydd yr ysgol a'r gymuned. Bydd yn ategu'r buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau Addysg yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen sy'n cael ei ddarparu ochr yn ochr â chyllid gan Lywodraeth Cymru eleni.

"Bydd datblygiad Fferm Solar Coed-elái ar hen safle'r pwll glo, sy'n eiddo i'r Cyngor, yn derbyn gwerth £7.38 miliwn. Unwaith y bydd ar waith, bydd y fferm solar yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy i wrthbwyso mwy na 1,100 tunnell o garbon bob blwyddyn dros ei chylch oes disgwyliedig o 40 mlynedd. Yn olaf, caiff gwerth £1.4 miliwn ei ddyrannu ar gyfer cynnal gwaith atgyweirio mawr ar ochr y mynydd i Ffordd Mynydd y Rhigos, yn dilyn tân mawr yn ystod haf 2022. Cafodd arolygiadau eu cynnal y llynedd i lywio'r cynllun atgyweirio, sydd bellach yn cael ei ddatblygu i'w gyflawni o haf 2024.

"Mae'n gyfnod ariannol heriol iawn ar gyfer Llywodraethau Lleol, gyda phob Cyngor yng Nghymru'n debygol o wynebu penderfyniadau anodd i osod eu Cyllideb Refeniw ar gyfer 2024/25. Serch hynny, rwy'n falch bod y Cyngor unwaith eto wedi gallu nodi buddsoddiad cyfalaf untro i barhau i ddarparu adnoddau ychwanegol i'n meysydd blaenoriaeth. Ac yntau bellach wedi'i gytuno gan y Cabinet, bydd y buddsoddiad ychwanegol yma'n cael ei drafod yng nghyfarfod llawn o'r Cyngor ddechrau mis Mawrth."

Wedi ei bostio ar 26/02/24