Skip to main content

Ailagor Parc Coffa Ynysangharad!

Band Stand

Newyddion da! O dydd Sul (25 Awst) ymlaen, bydd rhan fawr arall o'r parc yn ailagor i'r cyhoedd:

  • Safle Achlysuron Newydd
  • Ardal Ymarfer Corff i Gŵn
  • Y Cwrt Aml-chwaraeon
  • Y Pafiliwn Bowls
  • Ardal y Safle Seindorf

Er ein bod ni'n awyddus i'ch croesawu chi'n ôl i'r mannau yma, cofiwch fod rhai ardaloedd o'r parc yn parhau i fod ar gau wrth i seilwaith yr achlysur gael ei symud o'r parc. Er diogelwch, mae'n bosibl y bydd llwybrau a ffyrdd ar gau dros dro wrth i ni glirio'r safle.

Mae disgwyl i Parkrun a gweithgareddau chwaraeon eraill ailddechrau o 31 Awst ymlaen.

Diolch o galon i'n cymuned am eich amynedd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu chi'n ôl i Barc Coffa Ynysangharad!

Wedi ei bostio ar 23/08/2024