Skip to main content

Gwaith atgyweirio wal fawr yn dechrau ym Mhont-y-gwaith

Brewery Road wall, Pontygwaith - Copy

Bydd y Cyngor yn cynnal cynllun atgyweirio lleol pwysig ar ran 80 metr o wal ar hyd Heol y Bragdy, Pont-y-gwaith, a bydd gwaith yn dechrau yr wythnos yma.

Bydd y cynllun yn dechrau o ddydd Mawrth 27 Awst, a bydd angen cau'r lôn tua'r gogledd ar Heol y Bragdy er mwyn cael mynediad i rannau uwch o'r wal.

Bydd goleuadau traffig dwyffordd yn cael eu defnyddio gan y contractwr sydd wedi'i benodi gan y Cyngor, Kordel Civils and Building Ltd.

Bydd gwaith atgyweirio'r wal gynnal a chanllaw gerrig yn cynnwys cael gwared ar lystyfiant, yn ogystal ag ailbwyntio rhannau penodol o'r strwythur.

Bydd rhai rhannau o'r wal yn cael eu hailadeiladu a bydd y meini copa presennol yn cael eu hailosod lle bydd angen.

Bydd rheiliau diogelwch newydd i gerddwyr yn cael eu gosod.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu yn rhan o Raglen Gyfalaf Priffyrdd y Cyngor ar gyfer 2024/25, ac mae disgwyl i'r gwaith ddod i ben erbyn diwedd mis Hydref 2024.

Bydd y contractwr yn defnyddio rhan o'r lôn fydd ar gau i sefydlu man storio offer.

Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad wrth i waith atgyweirio'r strwythur mawr yma gael ei gynnal.

Wedi ei bostio ar 27/08/24