Skip to main content

Ymgynghori ar gam nesaf llwybr cerdded a beicio Cwm Rhondda Fach

Rhondda Fach Phase five

Mae bellach modd i drigolion ddweud eu dweud ar bumed cam arfaethedig Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach. Dyma fyddai rhan olaf y llwybr cerdded a beicio 10km a rennir, a byddai'n cysylltu Glynrhedynog a Tylorstown.

Bydd y llwybr cyffredinol yn creu llwybr i gerddwyr a beicwyr sy’n rhedeg am 10km ar draws Cwm Rhondda Fach gan gysylltu cymunedau lleol rhwng Maerdy a Tylorstown. Mae’n cael ei gyflawni yn rhan o bum cam o waith a restrir ar waelod y diweddariad yma, gan gynnwys y cynnydd a wnaed tuag at eu cyflawni.

Cynigir bod Cam Pump yn parhau o bwynt mwyaf deheuol Cam Pedwar, gan ymestyn rhwng Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach (Glynrhedynog) a throsbont Stanleytown, a chysylltu â llwybr cymunedol Ffordd Liniaru Porth wrth ei ben deheuol. Bydd Cam Pump yn dilyn llwybr yr hen reilffordd, ac yn creu cysylltiadau lleol i'r ganolfan chwaraeon ac i Feddygfa Tylorstown.

Byddai cyflawni Cam Pump yn dibynnu ar lwyddo i gael caniatâd cynllunio, yn ogystal ag argaeledd cyllid a byddai’n cael ei gwblhau mewn blwyddyn ariannol yn y dyfodol. Mae'r ymgynghoriad presennol yn casglu barn y gymuned leol i helpu swyddogion i lunio a chwblhau cais cynllunio.

Mae ymgynghoriad ar Gam Pump bellach ar gael, a bydd trigolion yn gallu dweud eu dweud cyn i’r broses gau ddydd Llun 16 Medi.

Mae tudalen we bwrpasol wedi'i sefydlu i drigolion gael gwybod rhagor am y cynigion. Mae hyn yn cynnwys Datganiad Dylunio a Mynediad, dyluniadau manwl ac adroddiadau ategol. Mae modd gweld y dudalen ymgynghori yma.

Gall trigolion gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy ysgrifennu at y Cyngor – naill ai drwy e-bostio YmgynghoriadTeithioLlesol@rctcbc.gov.uk neu drwy lythyr, gan ddefnyddio'r cyfeiriad Rhadbost a ddarperir ar hafan yr ymgynghoriad.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:   “Mae’r ymgynghoriad presennol yn rhoi cyfle i drigolion ddysgu rhagor am gynigion ar gyfer pumed cam a cham olaf Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach. Byddai'r cam yma'n cynnwys adeiladu rhan fwyaf deheuol y llwybr cyffredinol rhwng Glynrhedynog a Tylorstown, a bydd swyddogion yn defnyddio'r wybodaeth leol a gasglwyd yn yr ymarfer ymgysylltu yma i lywio cais cynllunio'r Cyngor yn y dyfodol.

“Bydd Llwybr Teithio Llesol cyffredinol Cwm Rhondda Fach yn creu llwybr cerdded a beicio 10km a rennir o ardal Maerdy i ardal Tylorstown, gan greu cysylltiadau allweddol â thirnodau cymunedol ar hyd y ffordd. Mae’n cynrychioli buddsoddiad mawr – hyd yma rydyn ni wedi cael cymorth pwysig gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i alluogi tri cham o waith i ddechrau ar y safle. Mae Camau Un a Dau ym Maerdy wedi'u cwblhau, a dechreuodd Cam Pedwar trwy ardal Glynrhedynog ym mis Gorffennaf.

“Cafodd gwaith cyflawni Cam Pedwar a gwaith dylunio ar gyfer Cam Pump eu cynnwys yn nyraniad ehangach y Cyngor o Gronfa Teithio Llesol 2024/25. Mae'r cyllid yma gwerth £6.25 miliwn yn cynnwys gwaith gwella Llwybr Taith Taf yn ardal Trallwn, gwaith gwella Llwybr Taith Cynon yng Nghwm-bach, gwaith gwella ar wahân ar gyfer canol trefi Aberdâr a Phontypridd, a gwaith gwella Pont Glan-yr-afon yn Llwydcoed.

“Mae gwella’r ddarpariaeth cerdded a beicio yn ein cymunedau yn bwysig am nifer o resymau – i hwyluso gweithgarwch iach sy’n gwella lles pobl, ac i annog rhagor o bobl i gerdded neu feicio mwy o’u teithiau bob dydd fel dewis amgen i yrru. Bydd hyn yn cael effaith ganlyniadol, sef gwella'r amgylchedd a lleihau tagfeydd ar ein ffyrdd.

“Rwy’n annog yr holl drigolion sydd â diddordeb i ddweud eu dweud ar gynlluniau ar gyfer Cam Pump Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, cyn y dyddiad cau ar 16 Medi – i’n helpu ni i ddarparu’r rhan olaf rhwng Glynrhedynog a Tylorstown yn y ffordd orau.”

Mae manylion pedwar cam cyntaf Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, gan gynnwys y diweddaraf am gynnydd pob un, wedi’u crynhoi isod:

  • Cafodd Cam Un ei gwblhau ddiwedd 2023. Creodd y gwaith yma ran fwyaf gogleddol y llwybr teithio llesol cyffredinol, o leoliad i’r gogledd o ystad ddiwydiannol Maerdy i bwynt ger Cofeb Porth Maerdy.
  • Cafodd Cam Dau ei gwblhau yn gynharach eleni, gan ailafael yn y llwybr i'r de o Gam Un. Mae'n ymestyn trwy ardal Maerdy am 1.5km o Gofeb Porth Maerdy, gan ddilyn yr hen reilffordd.
  • Bydd Cam Tri'n gwella'r llwybr beicio presennol yn ardal Maerdy ac yn creu llwybr 1.5km newydd sy'n arwain i Stryd Richard a Phwll Nofio Glynrhedynog. Derbyniodd y cam yma ganiatâd cynllunio ym mis Mehefin 2024 ac mae’n parhau i gael ei ddatblygu, gyda gwaith ceisio cyllid yn parhau ar gyfer ei gyflawni.
  • ByddCam Pedwar yn parhau â'r llwybr o Gam Dau, gan wella’r hen lwybr rheilffordd ar draws Glynrhedynog, o bwynt i'r gogledd o Deras Ffaldau (ger Maerdy) i bwynt ger Cartref Angladdau Dolycoed (Tylorstown). Bydd cyswllt newydd yn cael ei greu i Stryd yr Afon ym mhen gogleddol Glynrhedynog, ynghyd â gwaith i ddwy bont ym Mlaenllechau. Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Gorffennaf 2024.
Wedi ei bostio ar 27/08/2024