Skip to main content

Cynnydd enfawr yn nifer yr ymwelwyr ym Mhontypridd yn ystod yr Eisteddfod

Eisteddfod-footfall-small

Erbyn hyn gall y Cyngor gadarnhau cyfanswm y bobl a ymwelodd â Chanol Tref Pontypridd yn ystod cyfnod wyth diwrnod Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Yn ystod yr ŵyl (3-10 Awst), 186,012 oedd cyfanswm yr ymwelwyr a gofnodwyd yn y dref – sy’n cynrychioli cynnydd enfawr o 119,747 o gymharu â’r wythnos flaenorol, a chynnydd tebyg o 115,554 o gymharu â’r un wythnos y llynedd. Y diwrnod prysuraf oedd dydd Gwener, 9 Awst, gyda ffigwr o 39,155 o bobl yn ymweld â'r dref.

Defnyddiwyd yr un system yn ystod wythnos yr Eisteddfod ag yn ystod recordiadau rheolaidd y Cyngor o ymwelwyr yng Nghanol Tref Pontypridd. Felly mae'r gwahaniaeth yn nifer yr ymwelwyr o'i gymharu â'r wythnos flaenorol, a'r un wythnos y llynedd, yn dangos cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl a ddaeth yn sgil yr Eisteddfod.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant:  "Cynhaliodd Pontypridd a Rhondda Cynon Taf Eisteddfod Genedlaethol Cymru wych a llwyddiannus y gall pawb fod yn falch ohoni. Roedd y dathliadau ym Mhontypridd wir yn cynrychioli digwyddiad tref gyfan - ar draws y Maes, safleoedd ategol, a thrwy ganol y dref.

"Mae'r ffigurau ymwelwyr sydd wedi'u cadarnhau yn rhoi arwydd defnyddiol i ni o nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref yn ystod y digwyddiad, o'i gymharu â'r wythnos flaenorol a'r un wythnos y llynedd. O dan yr un system gofnodi, ymwelodd bron i 120,000 yn fwy o bobl â chanol tref Pontypridd o'i gymharu â'r wythnos cyn yr Eisteddfod. Mae'n bwysig ychwanegu, hyd yn oed pan nad ydych chi'n ystyried wythnos yr Eisteddfod, fod Pontypridd eisoes yn mynd yn groes i'r duedd genedlaethol o ran cynyddu nifer yr ymwelwyr ac mae'n llawer is na'r duedd genedlaethol o ran siopau gwag.

"Hoffwn ddiolch i fusnesau lleol yn arbennig am fod mor barod i groesawu'r ŵyl - gan gynrychioli Pontypridd yn wych iawn, a chynnig croeso cynnes i ymwelwyr yng nghefndir stryd fawr liwgar llawn baneri ac addurniadau. Mae'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn awgrymu bod yr Eisteddfod wedi dod â degau o filoedd o ymwelwyr ychwanegol i'r ardal fanwerthu, gan olygu hwb i fasnachwyr."

Wedi ei bostio ar 20/08/24