Skip to main content

Cyflwyno mesurau rheoli traffig ar yr A4119 ym Mwyndy i gynnal gwaith ar y briffordd

Mae cynllun ar ddod i gynnal gwaith i wella'r briffordd a mynediad i gerddwyr ar yr A4119 ym Mwyndy (i'r gogledd o gyffordd Castell Mynach). Mae angen cyflwyno mesurau rheoli traffig er mwyn sicrhau diogelwch modurwyr a'r gweithlu.

Dyma roi gwybod i chi am y cynllun sydd ar ddod a fydd yn canolbwyntio ar y rhan o'r A4119 sy'n mynd o amgylch cyffordd Heol yr Ysgol (troad tuag at Feisgyn). Mae'r cynllun yma, sy'n cynnwys gwaith ar y briffordd a fydd yn gwella'r ffordd a diogelwch cerddwyr yn rhan hanfodol o ddatblygiad Taylor Wimpey yng Nghefn yr Hendy.

Bydd y cynllun yma'n darparu gwelliannau i lwybrau cerdded lleol, gan gynnwys gosod mannau croesi wedi'u rheoli gan oleuadau traffig ar hyd yr A4119. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys uwchraddio llwybrau beicio a cherdded, gwella isadeiledd draenio, culhau lled y lleiniau canol a lledu'r ffordd gerbydau, cwblhau gwaith leinio'r ffordd, uwchraddio'r goleuadau stryd a gosod arwyddion newydd.

Bydd y gwaith yn cychwyn ddydd Sul 21 Ebrill. ac i ddechrau, bydd rhaid cau'r ffordd dros nos er mwyn gosod y mesurau rheoli traffig. Bydd hyn yn golygu bod modd cynnal y gwaith a chynnal llif traffig i'r ddau gyfeiriad ar hyd yr A4119. Mae rhagor o fanylion am y trefniadau cychwynnol i gau’r ffordd dros nos wedi'u cynnwys ar waelod y neges yma.

Bydd mesurau rheoli traffig helaeth yno o ddydd Llun 22 Ebrill ymlaen er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu, modurwyr a cherddwyr.

Bydd lonydd cul a therfyn cyflymder 30mya mewn grym ar hyd safle'r gwaith rhwng cylchfan Tonysguboriau a Heol yr Ysgol (garej Corner Park). Bydd arwyddion clir yn dangos mannau croesi a llwybrau cerdded dros dro.

Bydd hefyd rhaid cau cyffordd yr A4119 - Heol Meisgyn - bydd llwybr amgen ar gael ar hyd Ffordd Cefn-yr-Hendy, Heol yr Ysgol a'r A4119. Bydd mynediad i gerddwyr, ond nid i gerbydau'r gwasanaethau brys. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r mynediad i gerddwyr. Mae map o ardal y ffordd a fydd yn cau wedi'i gynnwys ar wefan y Cyngor, yma.

Mae Horan Construction Ltd wedi'i benodi yn gontractwr i ddarparu'r cynllun ar y safle. Mae disgwyl i'r gwaith ddod i ben ym mis Awst 2024.

Rydyn ni'n argymell bod modurwyr yn ystyried defnyddio llwybrau amgen yn ystod cyfnodau prysur er mwyn lleihau tagfeydd ac oedi. Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich amynedd a chydweithrediad.

Cau dros nos er mwyn gosod y safle - dydd Sul 21 Ebrill

Rhaid cau'r ffordd dros nos ar ddechrau'r cynllun i osod y mesurau rheoli traffig ar yr A4119 rhwng cylchfan Tonysguboriau a Heol yr Ysgol (garej Corner Park). Bydd y ffordd ar gau rhwng 8pm ddydd Sul 21 Ebrill a 5am ddydd Llun 22 Ebrill.

Bydd llwybr amgen ar gael ar hyd cyffordd 34 yr M4, yr M4, cyffordd 32 yr M4, yr A470, Cylchfan Glan-bad, Heol Ton-teg a'r A473 Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys. Fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, ond bydd mynediad i gerddwyr ac i eiddo. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r mynediad i gerddwyr. Mae map o ardal y ffordd a fydd yn cau wedi'i gynnwys ar wefan y Cyngor, yma.

Wedi ei bostio ar 19/04/24