Skip to main content

Cynnydd yn ystod camau agor datblygiad gofal ychwanegol Porth

Dan y Mynydd 1 - Copy

Mae'r Cyngor wedi rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn rhan o gam adeiladu'r cynllun tai â gofal ychwanegol yn ardal Porth.

Bydd y cynllun cyffrous yma, sy'n cael ei ddarparu ar y cyd â Linc Cymru, yn golygu bod hen safle Cartref Gofal Dan y Mynydd yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Mae’r cynllun yn cynnwys adeiladu datblygiad modern, 4 llawr sy'n cynnwys 60 fflat gofal ychwanegol ar gyfer pobl hŷn, gyda chyfleusterau cymunedol sy'n cynnwys ardal fwyta, siop trin gwallt, ystafell weithgareddau, canolfan oriau dydd, swyddfeydd a mannau parcio.

Mae'r contractwr, Intelle Construction, wrthi'n paratoi sylfeini concrit yr adeilad a'r seilwaith draenio cysylltiedig ar hyn o bryd.

Cafodd yr arglawdd ei ailbroffilio i baratoi ar gyfer gwaith hoelio'r pridd, sydd bellach yn mynd rhagddo. Bydd y gwaith yma'n parhau dros yr wythnosau nesaf. Bydd gwaith gosod sylfeini stribed ar gyfer adain ddwyreiniol yr adeilad hefyd yn dechrau yn y cyfnod yma.

Unwaith y bydd y gwaith hoelio'r pridd wedi'i gwblhau, bydd y contractwr yn dechrau ar waith gosod strwythur cynnal. Bydd hyn yn galluogi'r contractwr i adeiladu'r sylfeini stribed sy'n weddill, a bwrw ymlaen â'r gwaith draenio.

Mae'r llun yn dangos rhywfaint o waith y contractwr dros yr wythnosau diwethaf, ers dechrau'r cam adeiladu ym mis Chwefror 2024.

Bydd y cynllun yn cyfrannu at fuddsoddiad mewn gofal ychwanegol ar gyfer Rhondda Cynon Taf, i helpu pobl hŷn i fyw mor annibynnol â phosibl gyda chymorth ar gyfer eu hanghenion wedi'u hasesu.

Disgwylir i’r datblygiad yn ardal Porth gael ei gwblhau yn nhymor yr Hydref 2025. Mae'r cynllun yma'n dilyn y cynlluniau diweddaraf yn Y Graig (Cwrt yr Orsaf) ac Aberaman (Maes-y-ffynnon).

Wedi ei bostio ar 24/04/2024