Mae buddsoddiad un tro gwerth £7.73 miliwn wedi'i gytuno ar gyfer blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer 2023/24 - ar gyfer y priffyrdd, strwythurau, cynlluniau lliniaru llifogydd, parciau a mannau gwyrdd, canol trefi, canolfannau hamdden am llety i bobl hŷn.
Mae'r buddsoddiad yn ychwanegol at y dyraniadau cyllid craidd sydd wedi'u hymrwymo yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol yma (2023/24). Mae'r cyllid yma'n dod o Gronfa Buddsoddiad / Isadeiledd wrth gefn sy'n cael ei gynnal yn benodol er mwyn cynorthwyo, cynnal a gwella isadeiledd ledled y Fwrdeistref Sirol.
Cafodd y cynigion eu hystyried i ddechrau cyn cael eu cymeradwyo gan Aelodau'r Cabinet ddydd Llun, 18 Medi, cyn iddyn nhw gael eu cymeradwyo yng Nghyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Mercher, 20 Medi.
Roedd yr adroddiad i'r ddau gyfarfod yn amlinellu manylion y buddsoddiad arfaethedig, gafodd ei gytuno gan Aelodau. Mae dyraniadau cyllid yn cynnwys:
- Priffyrdd a Ffyrdd - £1.5 miliwn.
- Strwythurau - £2.5 miliwn.
- Gwneud Gwell Defnydd / Datblygiadau Traffig - £550,000.
- Gwaith Lliniaru Llifogydd - £200,000.
- Gwelliannau Gofal y Strydoedd (biniau newydd mewn mannau cyhoeddus) - £50,000.
- Parciau a Mannau Gwyrdd - £300,000.
- Gwelliannau Canol Tref - £100,000.
- Canolfannau Hamdden - £400,000.
- Gofal Ychwanegol a Moderneiddio Llety ar gyfer Pobl Hŷn - £2 filiwn.
- Grantiau Ynni Cyfleusterau Cymunedol - £130,000.
Bydd y cyllid ychwanegol yma'n cynorthwyo Cynllun Corfforaethol y Cyngor, i fuddsoddi mewn Pobl, Lleoedd a Ffyniant. Bydd gwybodaeth bellach am sut bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio gan wasanaethau perthnasol y Cyngor yn cael ei gynnwys yn adroddiad y Cabinet ddydd Llun.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae Aelodau Etholedig bellach wedi cytuno i'r Cyngor wneud buddsoddiad gwerth £7.73 miliwn ar draws sawl un o'i feysydd sy'n flaenoriaeth, yn ychwanegol i'n Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/24. Bydd hyn yn cynyddu cyfanswm ein buddsoddiad o'r math yma i £162 miliwn ers mis Hydref 2015, am ein bod ni'n parhau i gynnal gwasanaethau allweddol gydag adnoddau ychwanegol.
"Mae heriau ariannol yn cael eu hwynebu ledled Llywodraeth Leol yn yr amseroedd anodd yma, ond oherwydd fod ein hadnoddau wedi cael eu rheoli'n ddoeth, rydyn ni yn y sefyllfa i wneud buddsoddiad cyfalaf ychwanegol mewn meysydd fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl - ledled gwasanaethau mae ein trigolion gwir yn dibynnu arnyn nhw.
"Bydd y cyllid gwerth £1.5 miliwn sydd wedi'i gytuno ar gyfer Priffyrdd yn ehangu ein cynllun ailwynebu parhaus, gan ychwanegu at y dyraniad gwerth £5.2 miliwn yn Rhaglen Gyfalaf 2023/24. Mae cynydd yn y buddsoddiad yn y maes yma dros sawl blwyddyn wedi gweld cyflwr ein ffyrdd 'A', 'B' a 'C' yn gwella'n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf. Bydd y dyraniad gwerth £2.5 ar gyfer Strwythurau yn helpu i atgyweirio a chynnal dros 1500 o bontydd, waliau a chwlferi y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanyn nhw - gan ychwanegu at y dyraniad gwerth £7.9 miliwn sydd wedi'i wneud yn barod ar gyfer 2023/24.
"Mae buddsoddiad pellach mewn cynlluniau lliniaru llifogydd yn cael ei groesawu hefyd, wrth inni barhau i ddarparu rhaglen o fwy na 100 cynllun sydd wedi'u targedu - gyda mwy na hanner ohonyn nhw wedi'u cwblhau ers Storm Dennis gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n falch hefyd y bydd Parciau a Mannau Gwyrdd lleol yn derbyn cyllid newydd tuag at y buddsoddiad parhaus mewn meysydd chwaraeon a phafiliynau, ynghyd ag atgyweiriadau i isadeiledd y parciau. Bydd cyllid newydd hefyd yn targedu gwaith uwchraddio adeiladau Canol Trefi, ac yn gwella'r treflun yn ein hardaloedd manwerthu.
"Yn olaf, bydd cyllid tuag at gynnal a chadw ein Canolfannau Hamdden yn cynorthwyo gyda gwaith megis addurno adeiladau, cyfleusterau newid, ac arwynebau chwaraeon - gyda £2 filiwn wedi cael ei glustnodi er mwyn parhau gyda'n gwaith gyda phartneriaid i foderneiddio llety preswyl ar gyfer pobl hŷn, gan gyflawni ein hymrwymiad i ddarparu rhagor o gyfleusterau Gofal Ychwanegol ledled cymunedau Rhondda Cynon Taf.
"Roedd adroddiad ar wahân i'r Cabinet a Chyfarfod o'r Cyngor Llawn wedi darparu diweddariad ar Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor - gan amlygu'r heriau sy'n cael eu hwynebu a'r diffyg cyllid disgwyliedig ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.
"Mae gan y Cyngor hanes ardderchog o ymateb i'r heriau ariannol dros y 10 blynedd diwethaf, a bydd swyddogion yn parhau i ddefnyddio ymagwedd gyfrifol wrth osod Cyllideb y flwyddyn nesaf - gyda llawer o'r gwaith yma'n cael ei gynnal dros yr hydref eleni, gan gynnwys ein hymarferion ymgynghori cyhoeddus blynyddol ar y gyllideb."
Wedi ei bostio ar 28/09/2023