Skip to main content

Cytuno ar gynigion i liniaru'r pwysau presennol ar gapasiti ysgolion arbennig

School generic image 1

Mae’r Cabinet wedi cytuno ar opsiynau i greu rhagor o leoedd mewn ysgolion arbennig lleol mewn ymateb i alw cynyddol a phwysau presennol ar gapasiti. Bydd hyn yn arwain at sefydlu canolfan ategol y Blynyddoedd Cynnar yn Nhonyrefail, ynghyd â buddsoddiad o hyd at £5 miliwn yn y ddarpariaeth arbenigol bresennol yn Ynys-y-bwl.

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Iau 19 Medi, bu’r Aelodau'n trafod adroddiadau ar wahân ar gyfer yr opsiynau yma. Fe'u cynigiwyd er mwyn helpu i liniaru'r pwysau presennol ar gapasiti sy'n gysylltiedig â diwallu anghenion disgyblion ag ADY yn Rhondda Cynon Taf, a'r angen i gynyddu capasiti er mwyn galluogi'r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol ar gyfer disgyblion ADY.

Mae adroddiadau blaenorol i'r Cabinet wedi dangos y pwysau o ran capasiti sy'n wynebu ysgolion arbennig lleol oherwydd y cynnydd yn nifer y disgyblion a'r ffaith bod anghenion pobl ifainc yn mynd yn fwy cymhleth. Mae opsiynau i ehangu ein hysgolion arbennig (Park Lane, Maesgwyn, Hen Felin a Thŷ Coch) wedi cael eu harchwilio, a bydd ysgol arbennig newydd sbon yn cael ei chreu yng Nghwm Clydach yn 2026. Hefyd, mae pedwar Dosbarth Cynnal Dysgu newydd yn cael eu sefydlu ym mlwyddyn academaidd 2024/25 – sy’n dod â chyfanswm nifer y dosbarthiadau yma yn y Fwrdeistref Sirol i 48.

Fodd bynnag, mae nifer y disgyblion sydd yn ein hysgolion arbennig wedi codi o 539 yn 2017 i 746 yn 2024 – cynnydd o 38.4%, ac rydyn ni'n disgwyl i’r niferoedd gynyddu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod. Tra bydd 175 o leoedd yn cael eu creu gan yr ysgol newydd yn 2026, roedd yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Iau yn nodi bod angen rhagor o fesurau dros dro i liniaru'r pwysau ar gapasiti yn y cyfamser.

Mae darparu rhagfynegiad dibynadwy ynghylch faint o leoedd ysgol arbennig y mae'n debygol y bydd eu hangen yn y tymor byr yn heriol. Fodd bynnag, mae tueddiadau o'r pum mlynedd diwethaf yn awgrymu bod diffyg sylweddol yn debygol iawn. Mae’r data diweddaraf yn dangos cynnydd arall o 18 o ddisgyblion yn ein hysgolion arbennig ar gyfer mis Medi 2024.

Cytuno ar gynigion i greu capasiti ADY ychwanegol

Mae’r cynnig cyntaf a gytunwyd arno yn cynnwys creu canolfan ategol i fynd i’r afael â phwysau capasiti yn Ysgol Hen Felin ac Ysgol Tŷ Coch. Bydd hyn yn golygu agor hen adeilad Canolfan Gymuned Tonyrefail, gan gynnig darpariaeth y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer hyd at 30 o leoedd cyn-meithrin a meithrin. Bydd y ganolfan newydd yn dod o dan arweinyddiaeth a chorff llywodraethu Ysgol Hen Felin a bydd modd ei sefydlu’n gyflym.

Bydd rhaid gwneud mân addasiadau i sicrhau bod yr adeilad yn addas ar gyfer oedran y disgyblion, megis addasiadau i doiledau ac ystafelloedd hylendid, a bydd rhaid cynnal rhywfaint o waith mewnol ac allanol er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn addas. Bydd yr addasiadau yma'n cael eu hariannu drwy Grant Cynnal a Chadw ADY Llywodraeth Cymru. Bydd cludiant i'r ganolfan ategol a gartref yn cael ei ddarparu i ddisgyblion yn unol â pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor.

Yr ail gynnig mae’r Cabinet wedi cytuno ag ef yw creu llety ychwanegol ym Muarth y Capel, safle ategol Ysgol Tŷ Coch yn Ynys-y-bwl. Fe'i mynychir gan ddisgyblion ADY 14-19 oed sydd angen darpariaeth hynod arbenigol a phwrpasol. Crëwyd capasiti ychwanegol yno yn y blynyddoedd diwethaf drwy ddosbarthiadau dros dro – a bydd adeilad yr ysgol yn cael ei ehangu yn barhaol.

Bydd y prosiect yn darparu ystafelloedd dosbarth newydd, yn addasu adeiladau presennol ac yn gwella ardaloedd allanol gan ddarparu cyfleusterau'r 21ain ganrif. Bydd y prosiect yn darparu hyd at 20 o leoedd ychwanegol, yn dibynnu ar anghenion disgyblion a'r offer sydd eu hangen. Byddai hyn yn golygu mod modd i rai o ddisgyblion Ysgol Tŷ Coch fynychu’r safle, gan greu capasiti ychwanegol. Mae'r cynllun yn debygol o dderbyn cymorth ariannol gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, a disgwylir i'r prosiect gynrychioli buddsoddiad cyffredinol o hyd at £5 miliwn.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg:  “Mae swyddogion wedi rhoi gwybod i’r Cabinet ar sawl achlysur am y pwysau capasiti sy’n wynebu ein hysgolion arbennig, oherwydd cynnydd yn nifer y disgyblion yn ogystal ag anghenion mwy cymhleth plant a phobl ifainc. Mewn ymateb i hyn, byddwn ni'n buddsoddi mewn ysgol arbennig newydd. Byddwn ni'n creu amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf yng Nghwm Rhondda Fawr sy’n diwallu’r holl anghenion ac yn creu capasiti ADY ychwanegol sylweddol.

“Fodd bynnag, nododd adroddiad dydd Iau yn nodi bod pwysau capasiti a galw yn parhau i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, sy’n peri problemau yn y tymor byr rhwng nawr a phan fydd yr ysgol newydd yn agor yn 2026. Dydy gorffwys ar ein rhwyfau ddim yn opsiwn, gan fod gyda ni gyfrifoldeb i sicrhau lleoliadau arbenigol priodol ar gyfer disgyblion ADY. Mae hi hefyd yn bwysig ein bod ni'n sicrhau bod disgyblion yn cael lleoedd yn yr ysgolion arbennig sydd agosaf at eu cartref, a bod lleoedd y tu allan i’r sir neu mewn darpariaeth annibynnol yn cael eu lleihau ar sail gyllidebol.

“Bydd y cynigion y mae’r Cabinet wedi cytuno â nhw’n cyfrannu rhywfaint at liniaru’r pwysau presennol. Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio adeilad gwag Canolfan Gymuned Tonyrefail fel safle ategol a fyddai o fudd i Ysgol Hen Felin ac Ysgol Tŷ Coch, yn ogystal â buddsoddi hyd at £5 miliwn mewn ehangu a gwella’r cyfleusterau presennol ym Muarth y Capel er mwyn creu rhywfaint o gapasiti yn Ysgol Tŷ Coch. Rwy’n falch bod aelodau’r Cabinet wedi cytuno â’r ddau gynnig yma a bod modd i ni fwrw ymlaen â’r broses o’u cyflawni.”

Wedi ei bostio ar 25/09/2024