Skip to main content

Pedwar dosbarth cynnal dysgu newydd wedi'u cynnig i ddiwallu angen lleol

School classroom generic 1

Bydd y Cyngor yn ymgynghori ar gynigion i wella'i arlwy dosbarthiadau cynnal dysgu prif ffrwd i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol – a fyddai'n cynyddu nifer y dosbarthiadau yn y Fwrdeistref Sirol o 48 i 52.

Byddai'r cynigion yn ymateb i angen presennol yn y Blynyddoedd Cynnar a'r cyfnod uwchradd, a bydden nhw hefyd yn anelu at gynyddu'r ddarpariaeth mewn rhai ysgolion er mwyn cyfyngu ar bontio diangen o un safle i safle arall i ddisgyblion.

Rhoddodd adroddiad i gyfarfod y Cabinet ddydd Iau 19 Medi fanylion am 48 o ddosbarthiadau cynnal dysgu'r Cyngor, sy'n cynnig lleoliadau arbenigol i ddisgyblion sy'n ei chael hi'n anodd dysgu mewn addysg brif ffrwd. Mae'r Cyngor yn gwario tua £5.8 miliwn bob blwyddyn i redeg y dosbarthiadau yma, sy'n rhoi cymorth i gyfanswm o 420 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Mae'r nifer yma wedi cynyddu o 330 o ddisgyblion a 46 o ddosbarthiadau ers mis Hydref 2018 – sy'n adlewyrchu'r twf diweddar yn y galw.

Er bod gan ysgolion prif ffrwd ystod ardderchog o ddosbarthiadau cynnal dysgu, mae angen o hyd mewn rhai meysydd. Mae nifer y disgyblion ym mhob un o dri dosbarth y Blynyddoedd Cynnar yn uwch na'r nifer optimaidd, ac mae diffyg ar draws blynyddoedd 7-11 yn y cyfnod uwchradd. Does dim dosbarth cynnal dysgu i ddisgyblion uwchradd ag anawsterau dysgu cymhleth yng Nghwm Cynon felly rhaid i ddisgyblion deithio i Donyrefail, Glynrhedynog neu Dreorci.

Hefyd, mae chwe dosbarth i ddisgyblion blynyddoedd 3-6 ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol/ASA, ond dim ond pum dosbarth i ddisgyblion y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 2. Mae nifer y disgyblion yn y rhain naill ai wedi cyrraedd y nifer optimaidd, neu'n uwch na hynny, ym mis Medi 2024. O'r chwe dosbarth Blwyddyn 3-6, dim ond tri sydd â darpariaeth gyfatebol o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 2 felly mae rhaid i nifer o ddisgyblion bontio o un safle i safle arall.

Mae swyddogion felly wedi cynnig pum newid i ddiwygio darpariaeth bresennol y Cyngor erbyn mis Medi 2025, a hynny er mwyn mynd i'r afael â'r angen yma. Dyma'r newidiadau:

  • Sefydlu dosbarthiadau cynnal dysgu (ymyrraeth) y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Cwmaman ac Ysgol Gynradd Pen-yr-englyn ar gyfer plant oedran cyn-ysgol.
  • Sefydlu dosbarth cynnal dysgu yn y cyfnod cynradd ar gyfer disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol/ASA yn Ysgol Gynradd Hirwaun.
  • Sefydlu dosbarth cynnal dysgu ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7-11 ag anawsterau dysgu cymhleth yn Ysgol Gyfun Aberpennar.
  • Adleoli'r dosbarth cynnal dysgu ar gyfer disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol/ASA o Ysgol Gynradd Pen-y-waun i Ysgol Gynradd Hirwaun er mwyn creu darpariaeth pob oed (dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 6) ar un safle. Dim ond tri disgybl presennol fyddai'n symud yn rhan o'r newid yma.

Ar ôl trafod yr adroddiad, mae'r Cabinet wedi cytuno i'r Cyngor ymgynghori ar y newidiadau yma dros gyfnod o chwe wythnos rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2024.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Mae gan Wasanaeth Mynediad a Chynhwysiant y Cyngor ddyletswydd i adolygu cyfaddasrwydd ei ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau bod y math cywir o ddarpariaeth ar gael, a hynny o safbwynt safon a nifer. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y sefyllfa bresennol lle mae galw yn cynyddu'n gyson ar draws pob un o'n hysgolion arbennig ac ar draws ein hystod o ddosbarthiadau cynnal dysgu mewn ysgolion prif ffrwd.

“Mae swyddogion wedi rhoi gwybod bod yr ystod o gymorth sy'n cael ei gynnig gan ein 48 o ddosbarthiadau cynnal dysgu yn dda iawn ond mae rhai meysydd lle y byddai darpariaeth ychwanegol yn helpu i fynd i'r afael â diffyg a nodir – yn enwedig yn y Blynyddoedd Cynnar a'r cyfnod uwchradd. Hefyd, mae swyddogion wedi nodi meysydd lle y byddai modd cynnig dull mwy cyson mewn rhai cymunedau, a hynny er mwyn cyfyngu ar angen disgyblion i bontio o un safle i safle arall. Yn lle pontio, byddai modd iddyn nhw fwynhau darpariaeth 'pob oed, yn debyg i'w cyfoedion mewn addysg brif ffrwd.

“Byddai'r cynigion yn golygu na fyddai unrhyw newidiadau i 47 o'n dosbarthiadau cynnal dysgu, byddai un yn cael ei adleoli a byddai pedwar dosbarth newydd yn cael eu sefydlu. Ar ôl trafod yr adroddiad a'r argymhellion gan swyddogion, mae'r Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar y newidiadau. Bydd yr adborth a ddaw i law yn cael ei gasglu a'i gyflwyno i Aelodau, er mwyn iddyn nhw ddod i benderfyniad terfynol yn y dyfodol.”

Wedi ei bostio ar 24/09/2024