Skip to main content

Dysgu iaith yn ffynnu yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail

Tonyrefail visit 2

Cafodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle, groeso cynnes i Ysgol Gymunedol Tonyrefail ddydd Mawrth, Medi 24, i weld yn bersonol y dysgu iaith wych sy’n digwydd mewn partneriaeth ag Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.

Croesawyd y Gweinidog Cabinet gan Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a’r Gymraeg, y Cynghorydd Rhys Lewis, lle cawson nhw’r cyfle i weld rhaglen fentora Ieithoedd Tramor Modern (ITM) Prifysgol Caerdydd ar waith.

Mae rhaglen ITM Prifysgol Caerdydd yn cynnwys hyfforddi myfyrwyr prifysgol i fentora disgyblion ym mlynyddoedd 8 a 9 a'u cefnogi wrth iddynt baratoi i ddewis eu hopsiynau TGAU. Mae’r rhaglen yn helpu disgyblion i ystyried dewis ieithoedd modern fel un o’upynciau  TGAU trwy ddysgu manteision dysgu ieithoedd iddynt, sy’n fenter y mae Ysgol Gymunedol Tonyrefail, ochr yn ochr ag ysgolion eraill RhCT, wedi elwa arni.

Eleni, mae naw ysgol uwchradd o RCT yn rhan o’r prosiect ITM: Ysgol Gyfun Bryncelynnog, Ysgol y Cardinal Newman, Ysgol Gymunedol y Porth, Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Ysgol Gyfun Treorci, Ysgol Gyfun Y Pant, Ysgol Garth Olwg, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Ysgol Llanhari .

Gall ysgolion wneud ceisiadau i weithio gyda'r prosiect yn flynyddol. Ariennir y prosiect yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru o dan y strategaeth Ddyfodol Fyd-eang sydd bellach yn ei ddegfed flwyddyn, ac mae’n gweithio ar draws naw Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Prifysgol De Cymru, Prifysgol y Drindod, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Wrecsam, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae myfyrwyr prifysgol yn gwneud cais i gymryd rhan yn y prosiect ac yna'n cael eu hyfforddi gan dîm y prosiect i fentora.

Yn ystod yr ymweliad, gwnaeth Ysgol Gymunedol Tonyrefail argraff ar Ysgrifennydd y Cabinet gyda thaith o amgylch yr ysgol 3-19 drwodd gan weld arddangosiad byw o sesiwn fentora rhwng blwyddyn 8 a dau o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Jake a Holly, sy’n fentoriaid Ieithoedd Tramor Modern ar gyfer y rhaglen ITM. Yna cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â blwyddyn 10, a siaradodd am y buddion y maent wedi’u hennill o’r rhaglen yn ogystal â bod yn awyddus i glywed am amser Ysgrifennydd y Cabinet yn astudio yn Fflorens, yr Eidal, a sut y bu hyn o fudd i’w thaith addysgol a phersonol drwy fywyd.

Wrth fyfyrio ar eu hamser yn ystod y rhaglen fentora, dywedodd disgyblion eu bod yn teimlo'n gyfforddus yn cysylltu â'u mentoriaid ITM. Mynegwyd y ffaith eu bod yn debyg o ran oedran yn golygu eu bod yn gallu cysylltu ar eu teithiau addysgol a chael gwybod mwy am brifysgol yn gyffredinol mewn amgylchedd hamddenol a sut mae'r mentoriaid yn defnyddio ieithoedd i ragori yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi. Aeth y dysgwyr ymlaen i ddweud bod y rhaglen fentora wedi eu helpu i wneud penderfyniadau clir o ran eu dewisiadau TGAU, ac roeddent yn hyderus i ddewis eu hoff iaith i ragori ynddi. Mae rhai dysgwyr eisoes yn ystyried ble hoffent astudio dramor!

Dywedodd Gareth Pope, Pennaeth Ysgol Gymunedol Tonyrefail: "Roedd yn hyfryd gweld y rhyngweithio rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a'n disgyblion ni wrth iddyn nhw rannu straeon a phrofiadau ynghylch y budd mae ieithoedd wedi'i roi iddyn nhw'n bersonol a'r hwyl o ddysgu ieithoedd. 

“Mae'r bartneriaeth rhwng yr ysgol a Phrifysgol Caerdydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol a rhaid rhoi clod i Mrs Humphries a'i thîm hi yn Ysgol Gymuned Tonyrefail o ran eu hangerdd a'u hysgogiad i sicrhau bod profiadau dysgu ieithoedd yn parhau i fod yn hwyl ac yn atyniadol i ddisgyblion.

“Mae'n disgyblion ni unwaith yn rhagor i'w canmol, gan ddangos eu hoffter gwirioneddol at ieithoedd a dysgu.”

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg ar Gyngor Rhondda Cynon Taf: “Roedd yr ymweliad yn llwyddiant ysgubol ac wedi dangos manteision y rhaglen ITM. Braf oedd gweld bod disgyblion Ysgol Gymunedol Tonyrefail yn ffynnu ac wedi mwynhau’r cyfle yn fawr. Mae darparu mynediad i ieithoedd i ddysgwyr yn hanfodol, ac roedd yn amlwg bod yr ysgol yn cefnogi’r rhaglen hon yn wirioneddol ac yn gallu gweld ei manteision. Hoffai’r Cyngor ddiolch i Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru am wneud y prosiect hwn yn bosibl.”

Wedi ei bostio ar 26/09/24